Ymunodd )聽y Brifysgol 芒 Keysight Technologies, cwmni sy'n arwain y farchnad ym maes dylunio, efelychu a datrysiadau trwy brofion,聽 i gyflwyno seminar hyfforddi undydd ar dechnegau profi a mesur ar gyfer systemau cyfathrebu.
Cafodd myfyrwyr peirianneg electronig, ymchwilwyr, a chwmn茂au telathrebu lleol ddarlithoedd technegol gan arbenigwyr Keysight, ar bynciau megis gofal a chynnal a chadw offer, i leihau risg prawf a gwella cywirdeb mesuriadau.
Yn ystod y dydd, cafodd y myfyrwyr glywed am y cyfleoedd sydd gan Keysight i'w cynnig o ran gyrfaoedd a lleoliadau, a sgwrsio am eu hastudiaethau gyda myfyrwyr gradd Meistr, PhD ac Ymchwilwyr 么l-Ddoethurol presennol y Ganolfan DSP. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys taith o labordai ymchwil ac arloesi鈥檙 Ganolfan DSP, sy鈥檔 cynnwys llawer o ddarnau o offer profi Keysight sydd o鈥檙 radd flaenaf, ac arddangosiadau byw o dechnegau cyfathrebu digidol y Ganolfan DSP.
Mae'r Seminar Hyfforddiant yn un agwedd ar rodd 'Gwerth Cymdeithasol' Keysight, fel rhan o'i dendr i gyflenwi offer project聽 Bargen Twf Gogledd Cymru y Ganolfan DSP. Caiff y seminar hyfforddi ei chyflwyno'n flynyddol am bum mlynedd a'r nod yw hybu sgiliau a chyflogaeth leol, a chyfrannu yn y pen draw at lesiant economaidd a chymdeithasol y gymuned.
Roedd y Seminar yn gyfle gwych i fyfyrwyr gryfhau eu gwybodaeth o wyddoniaeth profi a mesur, ac i gysylltu 芒 chymheiriaid, aelodau o鈥檙 staff, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Gobeithiwn y bydd yr hyfforddiant yn gefn i鈥檞 hastudiaethau ac y bydd yn fodd i atgyfnerthu eu brwdfrydedd i ddilyn gyrfa yn y technolegau cyfathrebu.
Roedd yn bleser cydweithio 芒 Keysight i drefnu a chyflwyno鈥檙 digwyddiad, ac i arddangos yr ymchwil arloesol mewn cyfathrebu sy鈥檔 seiliedig ar DSP sy鈥檔 digwydd yma ym Mhrifysgol 亚洲色吧, gyda chefnogaeth offer arbenigol Keysight. Rydym yn edrych ymlaen at barhau 芒鈥檙 bartneriaeth gyda Keysight i gyflwyno digwyddiad llwyddiannus arall y flwyddyn nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth a lluniau o'r digwyddiad ar gael ar dudalennau聽 a y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol.聽