Dathlu llwyddiant ein graddedigion
Dathlu llwyddiant gwerth tair blynedd o raddedigion. Ar 8 Gorffennaf 2022, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig seremoni raddio i fyfyrwyr o dair carfan: 2020, 2021 a 2022. Gwahoddwyd myfyrwyr a raddiodd yn ystod y pandemig yn 么l i seremoni raddio yn y cnawd.
Dywedodd Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig) 鈥淩oedd yn bleser cynnal ein seremoni raddio yn 2022. Er bod pob seremoni raddio yn arbennig, roedd y seremoni hon yn un arbennig iawn, oherwydd bod gwerth tair blynedd o fyfyrwyr yn graddio. Yn ystod y 听flynyddoedd diwethaf, ac yn ystod y pandemig Covid, b没m yn cynnal dathliadau graddio rhithiol i鈥檙 ysgol. Gohiriodd y brifysgol y seremon茂au ffurfiol tan eleni. Roedd yn bleser gweld y myfyrwyr yn y cnawd, a dathlu efo nhw, eu rhieni a鈥檜 ffrindiau. Ar 么l y seremoni ffurfiol, gwnaethom gynnal derbyniad i dros 400 o bobl i ddosbarthu gwobrau. Rydym yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu llwyddiant ac yn dymuno'n dda iddyn nhw at y dyfodol. Bydd yn wych cadw mewn cysylltiad, a chlywed beth maen nhw'n ei wneud, a sut maen nhw'n dod ymlaen 芒'u gyrfaoedd.鈥
听Academyddion a myfyrwyr yn seremoni raddio 2022
Dyfarnodd yr ysgol 21 o wobrau i fyfyrwyr a raddiodd yn 2022, ynghyd 芒 chydnabod yn ffurfiol y gwobrau a roddwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Meddai鈥檙 Athro Jonathan Roberts, sy鈥檔 cadeirio鈥檙 pwyllgor gwobrau a chydnabyddiaeth, 鈥淩ydym yn hynod o falch o'n holl fyfyrwyr. Ond mae rhai o'n myfyrwyr wedi mynd yr ail filltir. Rydym yn cydnabod eu llwyddiant drwy ddyfarnu gwobrau. Cafodd bob un o鈥檙 enillwyr dlws ar ffurf pwysau papur gwydr i ddathlu eu llwyddiant. Anrhydeddodd yr ysgol hefyd y diweddar Joe Marshall, a oedd yn fyfyriwr Cyfrifiadureg rhwng 2018 a 2020, trwy gyflwyno gwobr 'Caredigrwydd a Chymuned' er cof amdano. Rydym yn llongyfarch pob un o鈥檔 myfyrwyr ar eu llwyddiant, ac yn enwedig felly y myfyrwyr y dyfarnwyd gwobrau iddynt.鈥
Rhoddwyd y gwobrau i'r enillwyr canlynol:
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr J.H. Gee, am berfformiad rhagorol mewn mathemateg cysylltiedig 芒 chyfrifiadura i Catty Langford.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr W.E. Williams, i'r myfyriwr gorau yn yr ail flwyddyn ar gwrs BSc neu BEng, i Jake Lowe.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr R.H.C. Newton, i鈥檙 myfyriwr gorau yn yr ail flwyddyn ym maes mathemateg mewn peirianneg i Sean Price.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Green, i'r myfyriwr israddedig mwyaf teilwng yn eu project blwyddyn olaf, i Adam Brotzman.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr R.A. Jones, am hyfedredd mewn mathemateg gysylltiedig 芒 pheirianneg i Thomas Hughes.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr Dr David Owen (ffiseg), am berfformiad rhagorol mewn ffiseg ar gwrs peirianneg i Michael Giombetti.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr Ada Lovelace, i鈥檙 fyfyrwraig fwyaf teilwng mewn peirianneg, i Zhijin Lyu.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr Ada Lovelace, i鈥檙 fyfyrwraig fwyaf teilwng ar gwrs cyfrifiadura, i Stephanie Evans.
鈥⑻ 听Sabrina Zulkifli enillodd wobr flwyddyn Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a ddyfernir i鈥檙 myfyriwr gorau yn y flwyddyn olaf ar gwrs wedi ei achredu gan y sefydliad.
鈥⑻ 听Enillodd Charles Jones (BSc, Cyfrifiadureg) Wobr Graffeg Gyfrifiadurol Jan Abas, am arddangos y defnydd a'r ddealltwriaeth orau o graffeg gyfrifiadurol neu dechnolegau cysylltiedig ym mlwyddyn olaf eu cwrs.
鈥⑻ 听Dyfernir Gwobr Dr Jane Rudall am Gyflawniad a Chynnydd bob blwyddyn i fyfyriwr sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol a dangos cryn benderfyniad ac ymdrech wrth astudio. Eleni rhoddwyd gwobr Jane Rudall ar y cyd i Kamila Klepalova a Ross Barnes.
鈥⑻ 听Dyfanrwyd Gwobr Goffa'r Athro David Last, i鈥檙 myfyriwr sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf yn yr ysgol, i Annabelle Idu.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd y wobr i'r myfyriwr mwyaf teilwng ar gwrs cyfrifiadurol i Marius Evans.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd y wobr am deilyngdod mewn prentisiaethau gradd i Spencer Kenny.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd y Wobr Caredigrwydd a Chymuned i Jasmine Parkes. Dyfernir y 听wobr hon i fyfyriwr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sydd wedi mynd yr ail filltir i ddangos caredigrwydd i eraill ac i feithrin cymuned. Rhoddir y wobr er cof am Joe Marshall a oedd yn fyfyriwr cyfrifiadureg rhwng 2018 a 2020.听
鈥⑻ 听Dyfarnwyd y Wobr Prentisiaeth Gradd ar y cyd i Alecsander Anglesea ac Alex Jones.听
鈥⑻ 听BSc Dylunio Cynnyrch 鈥 Dyfarnwyd y marc academaidd uchaf i Andreas Koukouris
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth (i fyfyrwraig sy鈥檔 hanu o Gymru) i Elinor Jones.
鈥⑻ 听Dyfarnwyd Gwobr Lloyd Jones am Entrepreneuriaeth (i fyfyriwr sy鈥檔 hanu o Gymru) i Ben Lewis.
听
Cafodd dau fyfyriwr hefyd eu cydnabod gan y brifysgol am eu cyflawniadau rhagorol.
Dyfarnodd Bwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau'r Senedd Wobr Dr John Robert Jones i Marius Evans ac i Daniel Evans. Dyfernir y gwobrau gan Bwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau'r Senedd a sefydlwyd y wobr trwy gymynrodd i'r brifysgol yn ewyllys y diweddar Dr John Robert Jones o Hong Kong, a chaiff ei dyfarnu yn flynyddol i fyfyriwr neu fyfyrwyr y bernir bod eu perfformiad academaidd yn arbennig o ragorol y flwyddyn honno.听
听
Yn ystod seremoni raddio hefyd, dyfarnodd y brifysgol gymrodoriaeth addysgu prifysgol i Dr Daniel Roberts, darlithydd Peirianneg Electronig yn yr ysgol, gan gydnabod ei ragoriaeth ym maes addysgu, estyn allan i鈥檙 gymuned a chefnogi myfyrwyr.
Dathlu gyda'n graddedigion, eu teuluoedd, a鈥檜 ffrindiau
Golygydd: J. C. Roberts