Chwyldroi Ymchwil mewn i Wenyn: Technoleg Radar Arloesol yn Datgloi Dirgelion Symudiad Gwenyn
Bu Dr Cristiano Palego yn siarad am y gwaith ar ddefnyddio technoleg radar i ddeall symudiad gwenyn m锚l. Rhoddodd ei gyflwyniad gipolwg ar yr ymchwil chwyldroadol hwn wrth astudio鈥檙 peillwyr hanfodol hyn.
Mewn seminar a wnaeth brocio鈥檙 meddwl, esboniodd Chris Palego ei waith ar ddefnyddio technolegau radar, ynghyd 芒 thechnegau Deallusrwydd Artiffisial, i ddeall ac archwilio symudiad gwenyn. Cynhaliwyd ei sgwrs addysgiadol fel rhan o鈥檙 gyfres 鈥楧arlithoedd Ymgysylltu鈥. Mae'r darlithoedd yn rhoi llwyfan i academyddion, ymchwilwyr a chwmn茂au drafod ymchwil ym meysydd cyfrifiadureg, peirianneg, a dylunio. Fe wnaeth ei gyflwyniad ddenu cynulleidfa fywiog ac amrywiol o dros 20 o fyfyrwyr ac aelodau staff a oedd yn awyddus i ymchwilio i fyd swynol gwenyn m锚l.听
Esboniodd Chris 鈥Ni ellir gorbwysleisio arwyddoc芒d gwenyn m锚l fel peillwyr. Maent yn ganolog i'r diwydiant ffrwythau meddal, i amrywiaeth bwyd ac i sefydlogrwydd ecosystemau. Oherwydd eu bod mor fach ac mor gyflym, mae'n heriol dal eu symudiadau鈥. Roedd gwaith blaenorol wedi ymchwilio i synwyryddion ffisegol ar y gwenyn m锚l. Gellid ystyried y synwyryddion hyn fel bagiau cefn ar gyfer y gwenyn. Ond oherwydd bod gwenyn yn fach, os ydynt am gario unrhyw synwyryddion, yn yr un modd mae angen i unrhyw dechnoleg synhwyro ar eu cefnau fod yn fach iawn er mwyn peidio ag effeithio ar eu symudiad. Aeth ymlaen i ddweud: 鈥渋鈥檙 perwyl hwn, rydym wedi bod yn ymchwilio i sut y gallwn ddefnyddio鈥檙 technegau lleiaf ymwthiol posibl ac algorithmau awtomatig i ddeall symudiad gwenyn m锚l yn fwy cynhwysfawr.鈥 Mae eu gwaith yn ymestyn y tu hwnt i wenyn m锚l ac yn berthnasol i bryfed, anifeiliaid a hyd yn oed asedau eraill, ond mae effaith sylweddol gwenyn m锚l a chacwn ar amaethyddiaeth, y diwydiant cynhyrchu bwyd a chydbwysedd ecolegol yn tanlinellu pwysigrwydd eu hymchwil.
Yn ei gyflwyniad, rhannodd Chris ei dechnegau ymchwil arloesol, sy'n defnyddio radar. Mae eu dull radar newydd yn dileu'r angen am osod tagiau corfforol ymwthiol ar wenyn. Yn ogystal, mae'r dull radar newydd yn osgoi unrhyw anghyfleustra o roi synhwyrydd ar wenynen, ond mae hefyd yn cynnig darlleniad signalau radar Doppler sy'n cael ei yrru gan ddysgu peirianyddol. Esboniodd Chris, 鈥Mae signalau Doppler yn fand cymharol gul ac nid oes angen p诺er prosesu helaeth i ymdrin 芒 nhw, yn wahanol i ddadansoddiadau ffilm fideo o symudiad gwenyn. Ar 么l hyfforddiant fideo cychwynnol, gall y system gyfrif a dosbarthu ymddygiad gwenyn yn annibynnol, gyda鈥檙 potensial o sbarduno camau gweithredu gan wenynwyr neu ffermwyr."
Mae鈥檙 astudiaeth sy鈥檔 mynd rhagddi鈥檔 archwilio'r berthynas rhwng darlleniad dysgu peirianyddol a phrosesu signalau radar traddodiadol wrth ddadansoddi ymddygiad gwenyn. Mae'r ymchwil hwn yn ceisio ateb cwestiwn sylfaenol: pa ddull yw鈥檙 mwyaf effeithiol? Yn nodedig, mae eu technoleg yn dibynnu ar fodiwlau 5.8 GHz parod a chost effeithiol, pob un yn costio llai na 拢100. Mae鈥檙 gost resymol yn gwneud y dechnoleg yn addas i鈥檞 defnyddio mewn ffermydd sy鈥檔 defnyddio twneli polythen, yn enwedig ar gyfer peillio tomatos gan ddefnyddio cacwn. Trwy ddefnyddio'r dechnoleg hon i fonitro gwahanol ardaloedd neu ymweliadau 芒 phlanhigion unigol, gall ffermwyr wneud y gorau o effeithlonrwydd peillio, ac o bosibl rhoi hwb i gynnyrch cnydau a chynaliadwyedd.
Mae goblygiadau鈥檙 ymchwil hwn i鈥檙 diwydiant amaethyddol yn sylweddol. Mae鈥檙 gostyngiad yn y niferoedd o beillwyr, yn enwedig gwenyn, yn bryder cynyddol. Mae鈥檙 defnydd o ddarlleniad dysgu peirianyddol yn cynnig y potensial i ffermwyr gael gwell dealltwriaeth o ymddygiad gwenyn, gan ganiat谩u iddynt felly wneud y gorau o dechnegau peillio. Gallai hyn arwain at arferion ffermio mwy effeithlon a chynaliadwy, gan chwarae rhan ganolog wrth ddiogelu ein cyflenwad bwyd yn y dyfodol. Mae'r ymchwil arloesol yn dyst i arwyddoc芒d technoleg wrth fynd i'r afael 芒 heriau ecolegol dybryd.
Dywedodd Bethany Johnson, ysgrifennydd cangen myfyrwyr 亚洲色吧 o鈥檙 IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig),
鈥Roedd yn sgwrs hynod ddiddorol. Rhannodd Chris ei wybodaeth efo ni am symudiad gwenyn ond llwyddodd hefyd i wneud y cynnwys technegol yn hawdd ei ddeall鈥.听