Arwain y ffordd - Entrepreneuriaid yn mentora merched yn Ysgol Busnes 亚洲色吧
Fel rhan o agenda Athena SWAN Ysgol Busnes 亚洲色吧, sef ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a hybu gyrfaoedd merched yn yr ysgol, mae tair myfyrwraig Ysgol Busnes 亚洲色吧 wedi cymryd rhan mewn rhaglen fentora gyda thair merch fusnes lwyddiannus lleol. Roedd yr entrepreneuriaid yn cynnwys Jess Lea-Wilson o Halen M么n, Sally Bowyer, perchennog Brynteg Glamping a Julie Williams, perchennog The Coaching Den 4 Life.
Cafodd y myfyrwyr brofiadau ac arweiniad gwerthfawr gan yr entrepreneuriaid, gydag un yn dweud ei bod nid yn unig wedi cael profiad gwaith ymarferol, ond wedi gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 entrepreneur drwy gydol y cyfnod ac wedi cael cyngor gyrfaol. 鈥淢ae Jess wedi fy helpu i osod nodau ar gyfer y cyfnod mentora a thu hwnt, cefais gyfle i ddysgu a gweithio gyda hi i ddatblygu cynnyrch y cwmni, a gwneud gwaith ymchwil i ddeall eu cystadleuwyr. Roedd yn brofiad gwych鈥.
Roedd un entrepreneur hyd yn oed wedi ysbrydoli a chefnogi un o鈥檔 myfyrwyr i sefydlu ei busnes ei hun. 鈥淭rwy鈥檙 rhaglen fentora hon, rwyf wedi magu鈥檙 hyder i rwydweithio ac rwy鈥檔 teimlo鈥檔 fwy hyderus am fy ngalluoedd fy hun. Rwyf wedi dechrau cwmni o鈥檙 enw Be Heard, gyda鈥檙 nod o godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwroamrywiol. Y nod yw cefnogi pobl ifanc 芒 chyflyrau niwroamrywiol mewn addysg ac i gyflogaeth. Yn ogystal 芒 gweithio i ddatblygu cyrsiau hyfforddi i sefydliadau fel y gallant gefnogi unigolion yn y gweithlu. Rwy'n teimlo bod gen i lwybr gyrfa o'm blaen yn awr".
Mae Rebecca Bowyer, sydd wedi sefydlu Be Heard hefyd yn bwriadu mynd i ddigwyddiad Women in Business & Tech Expo Karren Brady.