Bu farw Robert Burns, cyn ysgrifennydd anrhydeddus ÑÇÖÞÉ«°Éiaid Llundain, ar 3 Mawrth 2022, yn 78 oed.
Roedd Rob yn falch iawn o fod wedi ei eni yn Nolgellau a'i fagu yn yr Ardal Ddu. Aeth i Dudley Boys’ Grammar School ac yna i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor lle enillodd radd anrhydedd mewn cemeg amaethyddol, ac yna MSc yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhorthaethwy.Â
Ar ôl ÑÇÖÞÉ«°É, symudodd i Brifysgol East Anglia, yna Imperial College ac yna i The Laboratory of The Government Chemist, lle arhosodd am weddill ei yrfa. Mae cydweithwyr yn cofio Rob fel 'dyn hyfryd'; nid oedd gan neb air drwg i'w ddweud amdano.
Roedd yn ganwr da, yn aelod o sawl côr ac yn chwarae’r clarinet mewn band chwythbrennau ar safle’r National Physical Laboratory. Dywedodd cyd-aelod o'r 'Bushy Band' (a enwyd ar ôl Bushy Park sy’n agos at y labordy) bod Rob bob amser yn gefnogol iawn ohoni er ei fod yn gerddor llawer gwell na hi.
Bu mam, ewythr a chwaer Rob yn fyfyrwyr ym Mangor o’i flaen a chadwodd Rob ei gysylltiad â ÑÇÖÞÉ«°É am weddill ei oes trwy ei aelodaeth o Sefydliad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a’r Bwrdd Ymgynghorol Alumni. Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Hen Fangoriaid Llundain, a elwir bellach yn Fangoriaid Llundain, am bron i ddeng mlynedd ar hugain. Roedd Rob yn rhoi croeso cynnes i aelodau newydd bob amser ac roedd wrth ei fodd yn meithrin cysylltiadau rhwng pobl gan ei fod yn ŵr bonheddig caredig a doeth, gyda gwir ddiddordeb mewn pobl. Unwaith y byddai’r cysylltiadau wedi eu gwneud, byddai Rob yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd ac yn anfon cardiau Nadolig at bawb.
Roedd gan Rob ddiddordeb mawr mewn rheilffyrdd hanesyddol. Mae ffrindiau agos yn ei gofio'n teithio’n 'annoeth' ar drên ar ei ben ei hun, gyda'r cerbydau'n gyforiog o bigwyr pocedi, o Sorrento i Napoli ar wyliau grŵp yn 2010. Ond bu’r daith yn llwyddiant a chafodd bleser mawr o’r profiad. Rhannodd Rob ei frwdfrydedd am deithio ar drên mewn sgwrs am reilffyrdd Cymru, i Fangoriaid Llundain yng Nghanolfan Cymry Llundain. Trefnodd hefyd i’r gymdeithas ymweld â rheilffordd Epping Ongar, ar wibdaith ddiwedd yr haf. Felly, roedd aelodaeth Rob a’i gyfraniad at Fangoriaid Llundain dros y blynyddoedd yn rhan annatod o’r gymdeithas, a ddathlodd 120 o flynyddoedd ers ei sefydlu yn 2021.
Roedd Rob hefyd yn rhan bwysig o’r sîn Cymry Llundain dros nifer o flynyddoedd fel warden Eglwys St Benet, eglwys Cymry Llundain, gan ddatblygu cysylltiadau agos hirhoedlog ag aelodau’r gynulleidfa, ac yna, ar nos Sul, yn mynd i wasanaeth yn Eglwys y Bedyddwyr yn Stroud Green. Roedd yn mwynhau Llundain ac nid oedd yn awyddus i symud yn ôl i ganolbarth Lloegr, ond bu rhaid iddo wneud hynny pan ddechreuodd ei anableddau ei rwystro rhag teithio o amgylch y ddinas.
Cynhaliwyd cynhebrwng Rob ar 11 Ebrill 2022 yn Eglwys San Pedr, Stapenhill, ac yna yn yr Anglesey Chapel yn Amlosgfa Bretby. Roedd Rob yn credu mai'r gymwynas olaf y gallai ei wneud i unrhyw ffrind oedd canu'n dda yn eu cynhebrwng, a bu i’r gynulleidfa a ymgasglodd yng nghynhebrwng Rob, o bob rhan o’i fywyd, wneud eu gorau i wneud yr un peth iddo ef.
Pan oedd Rob yn rhannu atgofion am ei flynyddoedd yn y brifysgol, roedd yn gorffen bob tro trwy ddweud 'Diolch yn fawr, ÑÇÖÞÉ«°É'. Byddai ei gyfeillion yn dweud yr un fath wrtho ef, diolch yn fawr iawn, Robert.
Rhoddwyd rhoddion er cof am Rob i Reilffordd Corris.
ÑÇÖÞÉ«°Éiaid Llundain
Chwefror 2023