Bydd y cyfraniad hael hwn yn galluogi’r Brifysgol i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay, a fydd yn gyfleuster o’r radd flaenaf wedi’i leoli ar safle hen Ysgol Friars. Mae’r gwaith i drawsnewid y safle ar y gweill, a fydd yn cadw cymeriad allanol a chyfanrwydd hanesyddol yr adeilad gwreiddiol. Bydd y datblygiad newydd yn cysylltu'n uniongyrchol â'r campws presennol, sy'n cynnwys adeilad Reichel a safle Ffriddoedd y Brifysgol. Bydd caffael, adnewyddu a datblygu’r adeilad a’r safle hanesyddol hwn yn cynnig cyfle cyffrous iawn i greu ysgol fusnes sy’n arwain y sector, yn ogystal ag adnewyddu adeilad ac iddo arwyddocâd hanesyddol ym Mangor.
Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn esiampl o arloesedd, gan ddarparu cyfleusterau modern i fyfyrwyr mewn lleoliad gwych a fydd yn ysbrydoli ac yn arfogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arweinwyr.

Wedi’i eni a’i fagu yn y Rhyl, roedd Albert Gubay yn ddyn eithriadol ac yn entrepreneur â gweledigaeth a gafodd effaith barhaol ar y sector busnes a’r sector elusennol. Wrth gael ei ryddhau o’r fyddin yn 1948, roedd gan Gubay siwt a £80, ac aeth ati, gyda chymorth benthyciad o £100 yn erbyn gemwaith ei fam, i ddechrau gwerthu “losin di-siwgr” (ar adeg pan oedd siwgr yn dal wedi ei ddogni), ac yna’n ddiweddarach roc Blackpool a melysion eraill, gan wneud hynny o gefn fan ac o stondinau marchnad yng Ngogledd Cymru. Roedd yn arloeswr mewn adwerthu, ac fe ddechreuodd y gadwyn Value Foods yn y Rhyl ym 1959. Aeth ymlaen i sefydlu Kwik Save, ac am hynny y mae'n fwyaf enwog, ac agorodd y siop gyntaf ym Mhrestatyn yn 1965.
Heddiw, mae Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn rheoli portffolio eiddo sylweddol trwy ei is-gwmni, Derwent Estates. Mae’r incwm a ddaw o'r eiddo’n cefnogi rhaglen grantiau'r Sefydliad. Ers 2016, mae’r Sefydliad wedi rhoi dros 700 o grantiau, gan ariannu amrywiaeth o brojectau cymunedol ac addysgol ledled Cymru a thu hwnt.
Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern. Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.
Diolchodd Is-ganghellor Prifysgol ɫ, yr Athro Edmund Burke, am y rhodd hael, gan ddweud: “Mae’r weithred ryfeddol hon o haelioni yn adlewyrchu ymrwymiad Albert Gubay drwy gydol ei oes i rymuso entrepreneuriaid y dyfodol. Mae’n briodol iawn y bydd yr Ysgol newydd yn dwyn ei enw, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol.”
Aeth yr Athro Burke yn ei flaen i ddweud: “Bydd y rhodd hon nid yn unig yn dyrchafu enw da Prifysgol ɫ fel canolfan o ragoriaeth academaidd ond hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i fyfyrwyr gael effaith sylweddol ym myd busnes.”
Ychwanegodd “Er bod y dirwedd ariannol yn heriol i brifysgolion ar hyn o bryd, mae buddsoddi’n strategol mewn meysydd allweddol fel hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a thwf hirdymor ein sefydliad.”
Wrth siarad ar ran Sefydliad Elusennol Albert Gubay, dywedodd Mrs C Gubay: “Mae ein Sefydliad yn falch o gefnogi’r project hwn sy’n llawn gweledigaeth. Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fan lle gall myfyrwyr dyfu, arloesi, a dod yn entrepreneuriaid y dyfodol. Credwn y bydd yn helpu i lunio dyfodol addysg fusnes, yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Rhan annatod o’r penderfyniad hwn i gefnogi Prifysgol ɫ oedd ei hymrwymiad i geisio denu myfyrwyr Cymru i aros yn eu mamwlad i astudio.”
Ers i Goleg Menai adleoli o safle’r Ffriddoedd a Friars i gampws newydd ym Mharc Menai, mae’r ffaith fod y Brifysgol wedi prynu adeilad hanesyddol Friars yn golygu mai addysg fydd prif swyddogaeth yr adeilad o hyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Rydym yn falch o allu gwerthu adeilad Friars i Brifysgol ɫ, partner strategol Grŵp Llandrillo Menai, i sicrhau bod tirnod mor hanesyddol ym Mangor Uchaf yn parhau i gael ei ddefnyddio at ddibenion addysgol. Rydym yn croesawu'r newyddion y bydd yr adeilad yn cael ei adnewyddu i greu ysgol fusnes o'r radd flaenaf."
Disgwylir i'r gwaith o adeiladu Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay ddechrau yn 2026 ac mae disgwyl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2027. Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd y Brifysgol yn cynnal seremoni agoriadol i ddathlu'r achlysur pwysig hwn, a chaiff y gymuned o fyfyrwyr a rhanddeiliaid lleol eu gwahodd i ddod ynghyd i nodi lansiad y cydweithio arwyddocaol hwn yn hanes Prifysgol ɫ.




