Mae rhifyn 2025聽, a gyhoeddwyd gan QS Quacquarelli Symonds, y dadansoddwyr addysg uwch byd-eang, yn darparu dadansoddiad cymharol o berfformiad mwy na 18,300 o raglenni prifysgol unigol, a gymerwyd gan fyfyrwyr mewn mwy na 1,700 o brifysgolion mewn 100 o leoliadau ledled y byd, a hynny ar draws 55 o ddisgyblaethau academaidd mewn pum maes cyfadrannol ehangach.
Mae chwe phwnc ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi eu cynnwys. Mae Amaethyddiaeth听补 Choedwigaeth i'w gweld ymhlith y 150 prifysgol orau trwy鈥檙 byd sy'n addysgu鈥檙 pwnc, tra bo Seicoleg a Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd i鈥檞 gweld ymhlith 350 prifysgol el卯t trwy鈥檙 byd sy'n cynnig y pynciau hynny. Mae Bioleg a Meddygaeth ymhlith y 650 uchaf, tra bo Economeg wedi ei restru ymhlith y 700 uchaf.
Mae'r tabl cynghrair yn 么l pwnc yn seiliedig ar bump metrig allweddol. Caiff dangosyddion enw da eu llunio o blith ymatebion gan fwy na 240,000 o gyflogwyr ac academyddion i arolygon QS tra bo metrigau Cydnabyddiaeth fesul Papur a Mynegai-H yn mesur effaith a chynhyrchiant ymchwil. Defnyddir y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol (IRN) i asesu cydweithrediadau ymchwil trawsffiniol.
Mae 1,662 o raglenni o鈥檙 Deyrnas Unedig wedi'u cynnwys ac maent wedi eu rhannu rhwng 104 o sefydliadau.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirpwy i鈥檙 Is-ganghellor, "Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i ni yn y tabl cynghrair hwn, ac yn adlewyrchu ein cryfderau o ran addysgu ac ymchwil, ac mae鈥檔 amlygu ein henw da ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd. Mae canlyniadau fel hyn hefyd yn dangos effaith fyd-eang ein hymchwil, ac yn gwella ein henw da鈥檔 rhyngwladol, gan helpu i ddenu myfyrwyr o bob cwr o'r byd i astudio yma yng ngogledd Cymru."