Efallai y bydd angen i gleifion sy鈥檔 cael eu hasesu gan glinigwyr mewn gwasanaethau y Tu Allan i Oriau ddechrau ar feddyginiaethau鈥檔 brydlon, ond mewn rhai mannau (e.e. ardaloedd anghysbell) maent yn cael trafferth cael y meddyginiaethau hynny mewn da bryd oherwydd nad oes fferyllfeydd cymunedol cyfagos ar agor. Gwaethygu a wnaeth y broblem yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys swyddi gweigion proffesiynol a chynnydd yn y defnydd o fathau o ofal o bell. Gall cleifion sy'n ffonio'r llinell gofal brys genedlaethol 111 dderbyn ymgynghoriad dros y ff么n neu fideo gan glinigwr a all fod yn unrhyw le yn y wlad, ond efallai nad oes fferyllfa gymunedol leol ar agor i ddosbarthu'r feddyginiaeth a ragnodwyd. I rai cleifion mewn rhannau gwledig o鈥檙 Deyrnas Unedig mae angen mynd yn bell i gyrraedd fferyllfa, ac mae hynny鈥檔 amhosibl i rai nad oes ganddynt eu trafnidiaeth eu hunain. Mae鈥檔 enghraifft o annhegwch yn narpariaeth gofal iechyd y Deyrnas Unedig a gall arwain at ganlyniadau iechyd anffafriol a chostau cysylltiedig (e.e., petai oedi gyda鈥檙 feddyginiaeth yn arwain at waethygu eu cyflwr) a phwysau (e.e. cynnydd yn y galw am ofal brys yn ystod yr oriau arferol drannoeth) mewn rhannau eraill o鈥檙 system.
Nod project REMEDY yw datblygu, astudio a gwerthuso datrysiadau technolegol - peiriant sy鈥檔 gweini meddyginiaeth - i gyflenwi meddyginiaethau鈥檔 lleol i gartref y claf. Bydd y peiriant yn cynnwys detholiad cyfyngedig o feddyginiaethau a gaiff eu rhagnodi鈥檔 aml ar 么l ymgynghoriad y Tu Allan i Oriau (e.e. gwrthfiotigau, steroidau, anadlyddion), y gall y claf neu gynrychiolydd gael mynediad iddynt. Mae rhif cod yn fodd i roi'r feddyginiaeth gywir (mewn ffordd debyg i locer casglu parseli, ond gyda nodweddion diogelwch ychwanegol). Byddai peiriannau o'r fath fel arfer yn cael eu gosod mewn safleoedd cymunedol lleol a byddai timau fferylliaeth lleol yn eu stocio. Byddai鈥檙 peiriannau鈥檔 cael eu hintegreiddio o fewn llifoedd y gwaith clinigol y Tu Allan i Oriau a byddai鈥檔 bosib eu defnyddio mewn ardaloedd anghysbell pan fo鈥檙 fferyllfeydd lleol ar gau. Mae'r uned yn cynnig storfa ddiogel ac mae鈥檔 dosbarthu hyd at 100 o feddyginiaethau, y gellir eu rhyddhau gyda chod pin a anfonir i ff么n symudol y claf, e-bost neu ei ddarllen dros y ff么n. Bydd meddyginiaethau sy'n cael eu storio yn y peiriant yn cael eu dewis o'r cyffurlyfr y Tu Allan i Oriau lleol gan y darparwr gofal.
Mae peiriannau tebyg eisoes yn cael eu defnyddio, megis y . Mae鈥檙 peiriannau mewn dros 800 o fferyllfeydd cymunedol ledled y Deyrnas Unedig a鈥檙 Iseldiroedd. Maent yn cynnig dull digyswllt o gasglu meddyginiaethau ar bresgripsiwn a gafodd eu dosbarthu mewn fferyllfa gymunedol a鈥檜 rhoi mewn bag yn barod i鈥檞 casglu. Yna mae'r claf yn derbyn neges destun gyda chod PIN er mwyn casglu o'r peiriant ar amser cyfleus a all fod pan fo鈥檙 fferyllfa gymunedol ar gau.
Trwy weithio gyda chynhyrchwyr a chyflenwyr Pharmaself 24, cafodd meddalwedd newydd ei ddatblygu i ailddefnyddio'r peiriant i ddod yn bwynt gweini meddyginiaethau o bell a lwythwyd ymlaen llaw yn sgil ymgynghoriad ff么n neu fideo gyda鈥檙 gwasanaethau clinigol y Tu Allan i Oriau. Cafodd y peiriant cyntaf ei osod yn Nolgellau fis Gorffennaf 2024. Yr enw a roesom arno yw Pharmaself REMEDY.
Pwy sy'n cynnal project datblygu鈥檙 gwasanaeth?
Caiff y project ei arwain o Brifysgol 亚洲色吧 gan Feddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ac academydd clinigol Dr Rebecca Payne ochr yn ochr a鈥檙 Athro Dyfrig Hughes a Dr Adam Mackridge. Aelodau eraill y t卯m yw Dr Archie Lodge, sy鈥檔 feddyg ac yn beiriannydd hyfforddedig deuol, a Nadia Swann, ymchwilydd gwasanaethau iechyd a chynrychiolydd cleifion/gofalwyr o Brifysgol Rhydychen, ac Athro Emeritws Prifysgol Aberdeen sy'n arbenigo mewn telefferylliaeth.
Y cwestiynau allweddol yr hoffem eu hateb yn y project hwn yw:
1. Beth yw'r heriau dynol, sefydliadol, technolegol a rheoleiddiol sydd yngl欧n 芒 gosod peiriant a reolir o bell i gyflenwi meddyginiaethau y Tu Allan i Oriau (REMEDY) mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol, a sut mae mynd i'r afael 芒'r rheini?
2. Beth yw effaith bosibl peiriant Pharmaself REMEDY ar fynediad at feddyginiaethau ar 么l tele-ymgynghoriad y Tu Allan i Oriau i unigolion yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu?
3. A oes gan beiriannau meddyginiaethau Pharmaself REMEDY y potensial i gynnig dull cost-effeithiol i wella mynediad at feddyginiaethau mewn cymunedau gwledig a chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu鈥檔 ddigonol yng Nghymru?
4. A ddylid cynnal astudiaethau pellach i asesu effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd y peiriant Pharmaself REMEDY; ac os felly, pa ddulliau fyddai orau i bennu ei fanteision a'i werth?
Pa ddulliau fyddwn ni'n eu defnyddio?
Rydym yn defnyddio model yr Ymchwilydd Preswyl, lle mae'r ymchwilydd, y gwasanaeth iechyd, a'r partner diwydiannol (Videosystem/Omnicell) yn cydweithio i ddatblygu, gweithredu ac astudio'r peiriant meddyginiaethau. Mae'r t卯m ymchwil yn cynnig help a chefnogaeth arbenigol i bob safle i gynllunio a gweithredu peiriannau meddyginiaethau i gleifion, ac mae鈥檔 cynnal gwerthusiad pwrpasol ar bob safle. Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am ddatblygu gweithdrefnau mewnol i weithredu鈥檙 peiriant, megis penderfynu ynghylch cyffurlyfr priodol, integreiddio鈥檙 peiriant yn eu prosesau cyfredol a datblygu mecanwaith i ailstocio鈥檙 peiriant. Mae'r safleoedd yn gyfrifol am ymgysylltu 芒'u mecanweithiau llywodraethu presennol a chadw rheolaeth lawn dros y cynllunio a'r gweithredu ar y safle, a bydd y t卯m ymchwil yn hwyluso鈥檙 gwerthuso.
Rydym yn mabwysiadu dull cyflwyno Ystwyth, a bydd y safleoedd ymchwil newydd yn agor yn raddol fesul cam, er mwyn gallu dysgu o'r safle cyntaf yn gefn i鈥檙 broses o weithredu鈥檙 ail.
Bydd yr astudiaeth gychwynnol o鈥檙 gwasanaeth robot cyflenwi trwy beiriant rhoddi meddyginiaethau o bell yn rhedeg am ddwy flynedd. Caiff y gwasanaeth ei ddarparu yn ystod unrhyw ran o鈥檙 cyfnod y Tu Allan i Oriau pan nad oes gwasanaethau fferylliaeth cymunedol ar gael. Bydd y Byrddau Iechyd yn gosod peiriant Pharmaself REMEDY yn y safleoedd peilot, ac yn gosod meddalwedd ar gyfer mynediad o bell i systemau cyfrifiadurol y Tu Allan i Oriau.
Byddwn yn defnyddio dull Ymchwilydd Preswyl sy鈥檔 golygu bod yr ymchwilwyr yn rhan o d卯m y project ac yn bwydo canfyddiadau'n 么l i wneud yn fawr o'r siawns o lwyddo. Caiff y cyfweliadau eu cynnal hefyd gyda鈥檙 staff a鈥檙 cleifion a chaiff data鈥檙 peiriannau a鈥檙 gwasanaeth eu dadansoddi.
Timau fferylliaeth y darparwr gofal fydd yn gyfrifol am ailstocio'r peiriant a fydd yn digwydd yn wythnosol, neu'n amlach fel bo angen, e.e. yn ystod gwyliau cyhoeddus.
Bydd cwnsela ar gael yngl欧n 芒 meddyginiaethau rhagnodedig gan y clinigwr y Tu Allan i Oriau yn ystod yr alwad gynghori gyda'r claf.
Caiff ei weithrediad ei astudio gyda .
Caiff yr astudiaeth ei noddi gan Brifysgol 亚洲色吧.