Leanne Rowlands
Mae Leanne Rowlands yn byw yn Sir Fon. Cyn iddi astudio ym Mangor, mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni.
Beth wnaeth i chi benderfynu astudio'r cwrs?
Ar 么l fy ngradd israddedig (Seicoleg BSc) cymerais flwyddyn allan i gefnogi pobl ag anaf i'r ymennydd ac anhwylderau iechyd meddwl. Mae yna lawer o ganlyniadau o anaf i'r ymennydd, gan gynnwys namau cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol. Mi oedd rhain o ddiddordeb mawr imi, ac felly penderfynais ddychwelyd i Brifysgol 亚洲色吧 eto, i astudio MSc mewn Sylfeini Neuropsychology Clinigol. Fe wnes i fwynhau'r cwrs hwn gymaint, gan gynnwys fy mhrosiect a oruchwyliwyd gan yr Athro Oliver Turnbull. Yn ffodus, roeddwn yn gallu sicrhau cyllid i barhau 芒'r gwaith hwn ac rydw i nawr yn astudio PhD lle rwy'n ymchwilio emosiwn mewn cleifion ag anaf i'r ymennydd, mewn partneriaeth 芒 Gwasanaeth Anafiadau Ymennydd Gogledd Cymru, ac o dan oruchwyliaeth yr Athro Turnbull a Dr Rudi Coetzer.
Pam wnaethoch chi benderfynu astudio ym Mangor?
Mae'r adran Seicoleg yn anhygoel, mae yna lawer o gyfleoedd i ddatblygu, ac mae'r staff mor gefnogol. Roedd hefyd yn golygu y gallwn aros yng Ngogledd Cymru ger fy nheulu, fy mhartner, a ffrindiau.
Beth ydych chi'n ei feddwl o fywyd ym Mangor a鈥檙 cyffiniau?
Rwyf wrth fy modd yng Ngogledd Cymru, yn enwedig yn yr haf. Mae'r golygfeydd yn brydferth ac mae yna lawer o deithiau cerdded braf. Mae'n reit 鈥渓aid back鈥, ac yn dawel, dwi鈥檔 hoffi hynna. Ond mae鈥檙 tywydd yn y gaeaf yn eithaf gwael...
Pa fath o gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr?
Mae llawer o gefnogaeth wych iawn. Mae yna tiwtor personol i bob myfyriwr, ac mae yna system diwtor brys hefyd, felly mae rhywun wrth law ar gyfer myfyrwyr israddedig a olraddedig ohyd. Mae'r gefnogaeth yn parhau ar lefel PhD, gyda'ch goruchwylwyr, cyfleoedd 鈥淐PD鈥, mentoriaid addysgu, a chymorth 鈥減astoral鈥. Mae gan yr Ysgol ddarpariaeth ragorol ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol hefyd.
A yw astudio ym Mangor wedi rhoi unrhyw gyfleoedd penodol i chi?
Do, popeth sy'n dod 芒'r PhD. Er enghraifft, mae gwneud y gwaith yr wyf yn ei wneud yng Ngwasanaeth Anafiadau Ymennydd Gogledd Cymru yn werth chweil, a chael cyfle i fynd i gynadleddau gwych.
Beth ydych chi wedi ei fwynhau am eich cwrs yn arbennig?
Rwy'n mwynhau fy ngwaith PhD, lle rwy'n rhedeg grwpiau gyda goroeswyr anaf i'r ymennydd yng Ngwasanaeth Anafiadau Ymennydd Gogledd Cymru. Rwyf hefyd yn mwynhau helpu gyda'r sesiynau labordy anatomeg, lle mae myfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf yn cael cyfle i gafael ar ymennydd dynol fel rhan o'u modiwl 鈥淏rain a Mind鈥! Fel myfyriwr PhD, rwyf hefyd yn hyfforddwr graddedig ar gyfer seminarau Dulliau Ymchwil Israddedig, dwi wrth fy modd ac yn mwynhau rhyngweithio 芒 myfyrwyr.
Beth yw'r peth anoddaf am fod yn fyfyriwr 么l-radd?
Rheoli fy amser.
Pa yrfa ydych eisiau ei dilyn ar 么l eich astudiaethau?
Byddwn wrth fy modd yn aros ym Mhrifysgol 亚洲色吧 i wneud 鈥淧ost Doc鈥, ac yn y pen draw, gweithio yma. Dyna'r freuddwyd, ond bydd yn rhaid inni weld a yw'n bosibl ai peidio.