
Siwan Iorwerth

Enw llawn:
Siwan Iorwerth
Cwrs:
Gradd Meistr mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Meistr mewn Gwyddor Chwaraeon, a sut wnes di ddechrau yn y maes hwn?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn deall y mecanweithiau ffisiolegol, biomecanyddol a seicolegol sy’n dylanwadu ar berfformiad athletwyr. Rydw i wastad wedi bod yn frwdfrydig am chwaraeon ac yn ymwybodol o'r rôl bwysig sydd gan gwyddor chwaraeon mewn gwella perfformiad, atal anafiadau, a chefnogi adferiad.
Dechreuais yn y maes trwy fy astudiaethau israddedig mewn Gwyddorau Biofeddygol, lle cefais gyfle i weithio ar brosiectau ymarferol, arsylwi arbenigwyr, a datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y maes. Drwy brofiadau gwaith, ges i brofi'r heriau a'r cyfleoedd o fewn gwyddor chwaraeon, a cryfhau’r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach drwy astudio Meistr.
Alli di ddisgrifio dy cffocws ymchwil neu unrhyw brosiectau ti’n gweithio arnynt ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, rwy’n ymchwilio sut mae cyflyrau meddwl neu deimladau mewnol unigolion yn effeithio ar y ffordd mae nhw’n barnu ymdrech ymarfer corff eraill. Yn benodol, rwy’n edrych i weld os ydi blinder corfforol yn creu rhagfarn tuag at y feirniadaeth, gan awgrymu bod cyflwr corfforol yn dylanwadu ar ddehongliad o ymdrech eraill. Rydym hefyd eisiau gweld os yw rhoi gwobr melys yn newid y feirniadaeth, gan dybio bod y berthynas rhwng ymdrech a gwobr yn effeithio arni.
Mae’r prosiect yma yn ceisio gwella ein dealltwriaeth ar sut mae blinder a chymhelliant yn effeithio ar sut rydym yn gweld ac yn barnu ymdrech eraill, gyda goblygiadau ar gyfer hyfforddiant, adsefydlu ac asesu ymdrech athletwyr.
Sut wyt ti’n gweld gwyddor chwaraeon yn datblygu yn y dyfodol, a pha effaith wyt ti’n gobeithio ei chael yn y maes?
Rwy’n tybio y bydd gwyddorau chwaraeon yn datblygu wrth i dechnolegau ddatblygu, er engraifft ffyrdd gwell o ddadansoddi data a defnydd cynyddol o AI, i wella perfformiad athletwyr a phersonoli hyfforddiant. Hefyd, rwy’n credu y bydd mwy a mwy o bwyslais ar iechyd meddwl ac adsefydlu i gefnogi athletwyr yn holistig.
Yn fy ngyrfa i, rwy’n gobeithio hybu’r defnydd o ymarfer corff fel meddiginiaeth o fewn y boblogaeth glinic a chyffredinol, drwy addysgu a chreu strategaethau adfer ac atal anafiadau fwy effeithiol ac effeithlon, mewn gobaith o wella safonau bywyd a lleihau risg o anafiadau.
Beth fu’r rhan fwyaf heriol a’r rhan fwyaf gwerth chweil o dy astudiaethau hyd yn hyn?
Y rhan fwyaf heriol i mi hyd yn hyn yw’r gwaith ymchwil yn y labordy oherwydd bod hyn yn awyrgylch newydd i mi ac yn fy nhynnu fi allan o fy ‘comfort zone’. Er hynny, dyma hefyd yw’r cyfle mwya gwerth chweil rydw i wedi gael gan mod i’n dysgu pethau newydd bob tro, mae’n wych gweithio mewn criw, ac mae’r lab yn gyfleuster gwych ac rwy’n teimlo’n lwcus cael gweithio yno o ddydd i ddydd.
Beth yw dy ddyheadau gyrfa ar ôl cwblhau dy radd, a sut wyt ti'n bwriadu defnyddio’r hyn ti wedi’i ddysgu?
Ar ôl cwblhau fy ngradd, rwy’n anelu at weithio gyda poblogaethau clinigol, gan ganolbwyntio ar atal ac adsefydlu anafiadau. Hoffwn greu a darparu cynlluniau ymarfer corff i bobl â chyflyrau cronig, gan ddefnyddio fy ngwybodaeth i wella eu safon bywyd a’u hannibyniaeth. Drwy ddefnyddio’r hyn rwyf wedi’i ddysgu, rwy’n gobeithio gwneud gwahaniaeth ymarferol trwy ddarparu strategaethau sy’n cefnogi adferiad ac iechyd hirdymor.
Unrhyw gyngor i rhywun sydd yn ystyried dilyn gradd Meistr Gwyddor Chwaraeon?
Fy nghyngor i yw i fanteisio ar bob cyfle ac i ymrwymo’n llawn i’r profiad. Cymerwch ran mewn darlithoedd a sesiynau ymarferol oherwydd gewch chi lawer mwy allan o’r radd drwy fod yn rhan o’r trafodaethau a’r ymchwil.
Canolbwyntiwch ar feysydd rydych chi wir yn eu mwynhau oherwydd mae’r radd yn ddechrau gwych i baratoi gyrfa llwyddianus a datblygu’ch sgiliau yn y maes. Yn olaf, mwynhewch y profiad, mae’n gyfle gwych i dyfu’n broffesiynol.