Astudiais gwrs BA addysg gynradd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É am 3 blynedd. Dewisais astudio’r cwrs yma er mwyn gwireddu fy mreuddwyd o fod yn athrawes yn fy ardal leol, er mwyn meithrin profiadau gwerthfawr mewn ysgolion cynradd lleol. Mae gen i ddiddordeb mewn addysgu a dysgu ers i mi fod yn ifanc iawn, ac fel plentyn roeddem wrth fy modd yn mynd i'r Ysgol, wrth dyfu fyny, roeddwn yn gwybod mae athrawes roeddwn eisiau bod.
Cefais 3 blynedd hapus iawn ym Mangor. Roedd cael astudio yn y Gymraeg yn hynod bwysig i mi. Fy hoff beth am y cwrs oedd y profiadau dysgu blynyddol mewn ysgolion i ni feithrin profiadau dysgu ‘go iawn’ ar lawr Dosbarth. Bues yn ffodus iawn o 3 ysgol gefnogol a sefydlodd sylfaen gadarn iawn i’n nhaith ddysgu. Roedd cael astudio ar y cyd a chriw brwdfrydig hefyd yn uchafbwynt dros y 3 blynedd.
Erbyn hyn, rwyf yn athrawes Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth ac yn mwynhau bob eiliad. Mae’r cwrs wedi fy helpu i baratoi ar gyfer hyn drwy gynnig cefnogaeth ddi-ben-draw yn ystod y tair blynedd o astudio ac mae diolch mawr i fentoriaid a darlithwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r profiadau dysgu yn sicr wedi fy annog i feddwl yn greadigol wrth gynllunio gwersi. Mae’r cwrs wedi fy ysbrydoli i fod yn berson brwdfrydig sy’n rhoi 100% i bob cyfle a ddaw.
Ar gyfer y dyfodol hoffwn ddatblygu ymhellach yn y maes Anghenion dysgu Ychwanegol wrth gefnogi a meithrin cyfathrebwyr, annibynnol, parchus. Rwyf yn ffodus iawn o’r cyfleoedd i gael datblygu yn barhaus ac ehangu fy ngwybodaeth yn gyson.