Trosolwg o'r Prosiect
Ymatebodd y project hwn i angen sefydledig sy'n berthnasol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd: yr her o gael y cyhoedd i gymryd rhan a chymryd perchnogaeth o ddatblygiadau cynaliadwy. Cyflogwyd myfyriwr israddedig o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel Intern Cyfryngau i gynhyrchu cyfryngau diddorol a hygyrch i rannu'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu am ymdrechion i liniaru effeithiau cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau lleol o'n hymchwil diweddar yn y maes hwn. Cynigiodd y cyfryngau gyfle i glywed gan leisiau lleol a heb gynrychiolaeth ddigonol am yr hyn a allai weithio o ran cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein cymunedau yma yng Ngogledd Orllewin Cymru. Cyflwynodd y project weithdy i gasglu meddyliau’r gymuned i fwydo i mewn i’r cynhyrchion cyfryngau y gellid eu hintegreiddio i leoliadau addysgu a dysgu ar draws meysydd pwnc sy’n ymwneud â chynaliadwyedd.
- Datblygu cyfryngau i rannu canfyddiadau ein hymchwil blaenorol o drafodaethau cymunedol lleol ynghylch cynaliadwyedd a newid hinsawdd gyda chynulleidfaoedd newydd.
- Nodi pa fewnwelediadau allweddol o ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd a phrojectau cysylltiedig sydd o ddiddordeb fwyaf i'r gymuned.
- Integreiddio'r cyfryngau a grëwyd i fodiwlau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
- Cynnig sgiliau a chyfleoedd datblygu gyrfa i fyfyriwr ôl-ddoethurol ac israddedig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É drwy’r project
- Datblygu gweithdy mentrus dwy awr yn archwilio'r rhwystrau a'r galluogwyr i ymgysylltu'n lleol ar gyfer yr hinsawdd.
- Cyflwyno'r gweithdy yn is-gyfleuster Parc Gwyddoniaeth Menai ar Stryd Fawr ÑÇÖÞÉ«°É i ddeg o fynychwyr.
- Integreiddio allbynnau’r project i fodiwl y drydedd flwyddyn, Iaith a Chyfathrebu yn yr Oes Ddigidol (QXL-3343).
- Rhoddwyd gwybodaeth â buddion ychwanegol i hanner cyfranogwyr yr arolwg a’r cyfweliad i ddadansoddi a oedd darparu ffeithiau cyd-fuddion yn effeithio ar ganfyddiadau ac ymatebion.
- Datblygodd ein intern cyfryngau bost blogio, podlediad, fideos byr, a myfyrdod interniaeth
Ymhlith y rhwystrau i ymgysylltu ar gyfer newid yn yr hinsawdd mae:
Ìý
Darlithoedd, darnau ysgrifenedig hir, a chostau byw yn gynaliadwy.- Siaradodd cyfranogwyr am y ffyrdd y mae cyfryngau yn aml yn negyddol i feithrin yr 'effaith sioc', a all ddatgysylltu'r rhai nad ydynt am weld neu glywed newyddion digalon.
- Gall y term cynaliadwyedd ei hun achosi dryswch ac yn aml ni chaiff ei esbonio ac ni roddir cyd-destun iddo.
- Geiriau ‘allweddol’ a fframio'r broblem yn aneffeithiol.
- Dulliau o'r brig i lawr a'r ffyrdd y mae cyrff llywodraethu yn pwysleisio'r angen am newid ond nad ydynt yn gweithredu arno.
Ìý
Ymhlith yr hwyluswyr i ymgysylltu ar gyfer newid yn yr hinsawdd mae:
Ìý
Dulliau o'r gwaelod i fyny a rhoi grym a gweithrediad i gymunedau gyflawni'r newidiadau y maent am eu gweld.- Rhoi opsiynau a dealltwriaeth na all pawb wneud popeth.
- Busnesau ac arferion busnes sy'n gadarnhaol o ran yr hinsawdd, gan roi mwy o ddewis i ddefnyddwyr.
- Newid y naratif a bod yn gadarnhaol trwy fyfyrio ar yr hyn y gellir ei wneud.
- Gwneud y dewis gwyrdd yn fforddiadwy ac yn hygyrch.
Ìý
Y Cyfryngau
Gweithdy: Gwerthu Cynaliadwyedd
Dydd Gwener, 3 Mai, 2pm tan 4pm.
M-SParc Ar Y Lon, 204 Stryd Fawr, ÑÇÖÞÉ«°É
Ìý
Trefnon ni weithdy i archwilio sut byddai cyfranogwyr yn ymgysylltu mwy â newid yn yr hinsawdd a sut y gallent werthu cynaliadwyedd i eraill, gan wahodd rhannu safbwyntiau a syniadau.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy a ddaeth â meddwl mentrus a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ynghyd. Nid oedd ots beth oedd y cyfranogwyr yn ei astudio neu wedi’i astudio ac nid oedd angen gwybod dim ymlaen llaw – roeddem am rannu syniadau newydd am ffyrdd o gysylltu â phwnc pwysig newid hinsawdd.
Dysgodd y cyfranogwyr sut i werthu cynaliadwyedd yn effeithiol gan ddefnyddio meddwl entrepreneuraidd. Roedd y gweithdy yn gyfle i feddwl am ffyrdd newydd o hyrwyddo cynaliadwyedd ar gyfer yr hinsawdd, gan gynnwys y rhwystrau a'r hwyluswyr i gyfathrebu gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
Roedd y gweithdy rhyngweithiol yn gwahodd y rhai a oedd yn cymryd rhan i rannu eu barn ar yr hyn sy'n gwneud iddynt beidio bod â diddordeb mewn materion hinsawdd yn ogystal â'r hyn a fyddai'n gwneud iddynt ymgysylltu a sut y byddent yn bersonol yn gwerthu cynaliadwyedd. Agorwyd y gweithdy gan Dr Beth Edwards, Cydlynydd Datblygu Addysg Fenter a gyflwynodd y Gweithdy Lego. Gwahoddwyd y rhai a gymeroedd ran i wneud model i gynrychioli eu hunain a'u sgiliau, ac yna adrodd yn ôl i'r grŵp yr hyn yr oedd yn ei gynrychioli.
Ìý
Y Tîm Ymchwil
Prif Ymchwilydd
Ymchwilwyr
Edrych ymlaen
Rydym bob amser yn awyddus i ddatblygu mwy o ymchwil gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a chydweithio.
Os oes gennych ddiddordeb cydweithio â ni, cysylltwch â Thora (t.tenbrink@bangor.ac.uk) neu Sofie (s.a.roberts@bangor.ac.uk)