Dyfarnu Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2023 i Dr Iestyn Woolway
Mae Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC a Darllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, wedi derbyn .
Dyfernir tair Medal Dillwyn i gydnabod ymchwil gyrfa gynnar eithriadol mewn tri maes academaidd gwahanol: STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth); gwyddorau cymdeithasol, addysg a busnes; a'r celfyddydau creadigol.
Mae Dr Woolway yn wyddonydd hinsawdd, sy'n ymchwilio i effaith newid hinsawdd ar lynnoedd a'u hecosystemau. Mae'r gwaith hwn yn amhrisiadwy ar gyfer helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau sy'n gweithio i warchod ecosystemau bregus.
Dywedodd Dr Woolway: 鈥淩wyf yn hapus dros ben fy mod i wedi derbyn y fedal hon, a hoffwn fynegi fy niolch o waelod calon i fy nheulu gwych, fy mentoriaid cefnogol ac i fy mhartneriaid cydweithredol o'r gorffennol i'r presennol, sydd i gyd wedi bod yn allweddol yn fy nhaith.鈥
Ceir rhagor o wybodaeth am enillwyr medalau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru .
Ar nos Fawrth, 14 Tachwedd, bydd Dr Woolway yn rhoi darlith gyhoeddus ar ran y Royal Geographical Society ym Mhrifysgol 亚洲色吧 - Lakes: sentinels of climate change. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn y cnawd ac ar-lein 鈥 ceir rhagor o wybodaeth a dolen i gofrestru yma.