Alex Capon (Mathemateg Pur, 1967)
Roedd Alex yn astudio Mathemateg (BSc.) yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, ÑÇÖÞÉ«°É (1964-67) ac astudiodd Diploma Dip Ed. yn y brifysgol (1968). ÌýBu’n dysgu yn ardal Grimsby ac roedd yn bennaeth Mathemateg mewn ysgol Gyfun yno am nifer o flynyddoedd.
Treuliodd Alex ddwy flynedd fel myfyriwr preswyl yn Neuadd Reichel ar Ffordd Ffriddoedd a bydd llawer o'i gyfoedion yn ei gofio yno. Dyna'r blynyddoedd pan oedd y dynion yn Reichel yn dal i wisgo gynau israddedig i ginio bob nos ac roedd cymunedau'r Neuaddau yn amgylcheddau ffyniannus a chefnogol. Ìý
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, bu Alex yn aelod gweithgar o Glwb Pêl-droed y Brifysgol ac yn ysgrifennydd i'r clwb ym 1967-68. ÌýO dan ei arweiniad tyfodd y Clwb Pêl-droed o ddau dîm i bum tîm gan gystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru yn nhymor 1967-68. Yn rhyfeddol, bu Alex yn chwarae tenis i UCNW hefyd ac roedd yn gapten ac yn ysgrifennydd clwb tenis y brifysgol. Bu'n rhan allweddol o drefnu teithiau yn ystod y Pasg o amgylch Iwerddon, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia ar gyfer clwb pêl-droed y brifysgol sawl blwyddyn yn olynol. ÌýUchafbwynt hyn oedd gêm gyfartal 0-0 gyda thîm cryf Prifysgol Prague fisoedd yn unig cyn i'r Rwsiaid oresgyn y wlad.
Dychwelodd Alex i Fangor am nifer o flynyddoedd i ddathlu penwythnosau'r Hen Sêr ac roedd ganddo atgofion melys am ei amser ym Mangor a'r gwmnïaeth a'r llwyddiant a gafodd o'r blynyddoedd hyn.
Mae'n sicr y bydd nifer o ffrindiau Alex yn ei gofio'n annwyl am ei gyfeillgarwch, ei ddawn fel chwaraewr a'i allu i drefnu mewn perthynas â chlybiau chwaraeon y brifysgol.
Lynn James (Celfyddydau, 1967)
Ìý
Patricia Sorrell (nee Murray)
Daeth Patricia Murray (Tricia neu Trish i bawb) i Borthaethwy ym 1985 fel myfyriwr Daearyddiaeth graddedig o Hull, ar ôl i'r geomorffolegydd arfordirol, John Pethick, danio ei diddordeb yn y gwyddorau morol. Cafodd MSc mewn Eigioneg Ffisegol o dan y Cyfarwyddwr y pryd hynny, Des Barton, a daliodd i ddatblygu ei diddordeb yn nynameg gwaddodion yr arfordir trwy ddilyn modiwlau'r MSc gyfochrog mewn Geotechneg Morol ac ymgymryd â thraethawd hir ar ffurf project maes yn Aber Afon Mawddach o dan oruchwyliaeth Colin Jago.
Roedd yn frwd dros astudio gwaddodion symudol, a dechreuodd wneud PhD ym 1986, o dan oruchwyliaeth Alan Davies o ysgol y Gwyddorau Eigion a Richard Soulsby o Hydraulics Research Wallingford. Yno, newidiodd o fod yn wyddonydd maes i fod yn wyddonydd dynameg gwaddodion go iawn a threuliodd lawer o'i PhD yn ailadeiladu ac yn gosod offer mewn 'cafn digon mawr i gerdded ynddo' yn awyrendai enfawr Ìý Wallingford. Cafodd seibiant o astudio am dri mis ar Operation Raleigh yn Guyana yn Ne America lle dangosodd yr un awch am antur ag y gwnaethai yn y mynyddoedd. Fel llawer un mi ddaeth i Fangor yn ddechreuwr lle'r oedd mynydda yn y cwestiwn ond erbyn iddi ymadael roedd yn un o garedigion mwyaf mynyddoedd gogledd Cymru, Ardal y Llynnoedd, yr Alban a'r Alpau.Ìý
Bu'n gweithio mewn amrywiol swyddi ymchwil a thechnoleg gwybodaeth mewn prifysgolion yng Nghaergrawnt a Newcastle, ac yn ddiweddarach cafodd swydd barhaol ym Mhrifysgol Sheffield fel arbenigwr a hyfforddwr Addysgu a Dysgu, a bu'n trigo mewn bwthyn ym mhentref hyfryd Hathersage yn y Peak District lle'r ymgartrefodd gyda'i phartner. Julian, a oedd hefyd yn gerddwr ac yn ddringwr.
Fis Rhagfyr 2018 cafodd ddiagnosis o ganser y fron a chafodd driniaeth chemotherapi ond yn anffodus ni fu'n bosib trin y canser eilaidd a bu farw ar y 6ed o Awst 2019. Un cysur, oedd ei hapusrwydd mawr ynghylch priodi Julian bythefnos cyn iddi farw.
Bydd llawer ohonom yn cofio gwên fawr a heintus Tricia a'r hwyl a'r antur oedd yn perthyn iddi. Bydd llawer o gyn-fyfyrwyr a staff Ysgol Gwyddorau'r Eigion yn gweld ei heisiau yn ogystal â'r holl ffrindiau a chydweithwyr eraill y cyfarfu â nhw ar ei hynt trwy fywyd.
Ìý
Simon White (14.03.1975 – 03.07.2019)
Roedd Simon White, a fu farw ar ôl gwaeledd o flwyddyn, yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol .
Yn 2015 graddiodd o SENRGy gyda Gradd Meistr Ymchwil (2015) yn y Gwyddorau Naturiol. Pan symudodd Simon i'r gogledd am y tro cyntaf yn 2004 bu’n gweithio i Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari (SRT), cwmni bridio tatws yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Dechreuodd fel cynorthwyydd maes cyffredinol ond gyda'i feddwl ymchwilgar a'i ddiddordeb dwfn ym mhatholeg planhigion, geneteg ac amaethyddiaeth gynaliadwy buan iawn y dysgodd y sgiliau angenrheidiol i ddod yn Rheolwr Treialon SRT. Arweiniodd y treialon hynny at hyrwyddo mathau o datws megis y Sarpo Mira a'r Sarpo Axona sydd bellach yn boblogaidd gyda garddwyr cartref ledled y Deyrnas Unedig.
Roedd project Gradd Meistr Simon yn astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer defnyddio patrymau DNA unigryw i alluogi tatws i wrthsefyll malltod hwyr. Adeiladodd ei ymchwil PhD ar y gwaith sylfaenol hwn i wneud yn fawr o strategaethau bridio dethol a nodi'r cyfuniadau mwyaf effeithiol o enynnau gwrthiant trwy eu croesi. Aeth ati'n ofalus i gynhyrchu dros 300 o glonau bridio newydd o datws. Fis Mehefin 2018 plannodd ei dreial maes olaf i brofi'r clonau tatws yr oedd wedi darogan y byddent yn gallu gwrthsefyll malltod yn dda (fe wnaethant berfformio'n union fel y rhagwelodd Simon) a lluniodd arbrawf terfynol i werthuso eu cyfansoddiad genetig gan ddefnyddio dilyniannau DNA ymwrthedd blaengar a dargedir at y genynnau.
Mae ei wraig Kate a'i blant Sam a Melissa yn ei oroesi.