Yr Athro Adrian Gepp yn traddodi yng Nghynhadledd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSS) 2023 yn Harrogate Medi 4 - Medi 7
Bydd yr Athro Adrian Gepp yn traddodi yng Nghynhadledd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSS) 2023, yn Harrogate rhwng Medi 4 a Medi 7.
Mae ganddo dri o bapurau ymchwil yn y gynhadledd arbennig hon. Bydd ei gydweithwyr ymchwil yn cyflwyno dau o鈥檙 rheini: y project dadansoddeg iechyd Automated coding of suicidal ideation in emergency department presentations: balancing interpretability and performance, a'r project cyllid The Quest for Optimal Trade Execution: Bydd Adrian hefyd yn cyflwyno ei bapur awdur unigol yntau Successes, failures and lessons learned from developing Data Analytics programmes within Business Schools in multiple countries, yr enillodd un ohonynt wobr genedlaethol. Bydd y cyflwyniad yn tynnu ar y profiad helaeth hwnnw o ymchwilio ac addysgu dadansoddeg data, a bydd yn rychwantu meysydd cymhwysol megis twyll, cyllid a hysbysebu yn ogystal 芒 thwristiaeth, chwaraeon a risg gweithredol a dadansoddeg ragfynegol arall i fusnesau.
Yn 么l yr Athro Gepp, 鈥渕ae'r galw am ddadansoddwyr data busnes yn fwy na'r cyflenwad. Fodd bynnag, noda un o adroddiadau鈥檙 diwydiant fod llai na thraean o brojectau dadansoddeg yn arwain at ganfyddiadau ymarferol.鈥 Mae鈥檔 credu 鈥測 gall addysg prifysgol mewn dadansoddeg data chwarae rhan fawr i wella鈥檙 ffigur siomedig hwnnw,鈥 a 鈥渄ylai rhaglenni prifysgol gydbwyso addysgu hyfedredd dadansoddi data technegol, datblygu craffter busnes a鈥檙 gallu i gymhwyso dadansoddeg yn y byd go iawn.鈥 Bydd sgwrs Adrian hefyd yn cynnwys sylwadau adfyfyriol yngl欧n ag ystafelloedd dosbarth ben i waered, deunyddiau rhyngweithiol ar-lein, microgymwysterau byr ar raddfa fawr ar lwyfannau allanol/mewnol, meddalwedd poblogaidd a chonlfeini ar ffurf ymgynghoriaeth ac astudiaethau achos cyhoeddedig. Ddechrau 2023, lansiodd Ysgol Busnes 亚洲色吧 MSc mewn dadansoddeg data busnes yn ddiweddar a bydd BSc yn dilyn yn ddiweddarach yn 2023 a fydd yn cynnwys project gyda鈥檙 diwydiant sy鈥檔 defnyddio data o鈥檙 byd go iawn. Cyn arwain datblygiad rhaglenni blaengar Ysgol Busnes 亚洲色吧 mewn dadansoddeg data busnes ar sail ymchwil, bu Adrian yn arwain t卯m yn ei sefydliad blaenorol i gael eu henwi mewn Gwobr yn Awstralia am Addysgu Prifysgol (AAUT) am Gyfraniadau Eithriadol i Ddysgu Myfyrwyr. Dywedwyd 鈥淎m ddylunio rhaglenni dadansoddi data sy'n meithrin profiadau dysgu dilys sy'n canolbwyntio ar ddatrys problemau鈥檙 diwydiant i gynhyrchu graddedigion sy鈥檔 meddu ar hyfedredd technegol a chraffter busnes ymarferol.鈥 Roedd adborth y cyflogwyr yn cynnwys, 鈥淩wyf wedi gweld yn gyson bod eu rhaglenni dadansoddi data鈥檔 creu graddedigion sy鈥檔 barod am swydd ac sy鈥檔 fedrus yn fasnachol.鈥