Mae Prifysgol 亚洲色吧 ac Adra, darparwr tai cymdeithasol mwyaf Gogledd Cymru, wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) i ddatblygu sgiliau ac ymchwil i ddatgarboneiddio stoc tai.
Mae鈥檙 cytundeb yn gweld Prifysgol 亚洲色吧 yn dod yn bartner allweddol yn yr Hwb Datgarboneiddio, cyfleuster a sefydlwyd ym Mhenygroes yn 2021 gyda鈥檙 cwmni deunyddiau adeiladu Travis Perkins, a gefnogir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Bydd yr Hwb Datgarboneiddio yn gweithredu fel cyfleuster i arloesi, darparu hyfforddiant sgiliau a datblygu a phrofi deunyddiau newydd a sut y gallent gael eu defnyddio i gefnogi datgarboneiddio. O fewn y maes arbennig hwn y gwelodd Adra a Phrifysgol 亚洲色吧 y cyfle i gydweithio.
Wrth arwyddo鈥檙 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y safle ym Mhenygroes, dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol 亚洲色吧, 鈥淲rth i ni geisio sicrhau dyfodol glanach a gwyrddach, mae Prifysgol 亚洲色吧 yn falch iawn o weithio gyda chymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru i ddatblygu鈥檙 dechnoleg, yr arloesedd a鈥檙 sgiliau angenrheidiol i ni symud ymlaen yn wirioneddol ar yr agenda datgarboneiddio 鈥 maes mor bwysig i鈥檙 rhanbarth, ac o ran cynaliadwyedd y blaned yn y dyfodol.鈥
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: 鈥淢ae cynaliadwyedd wrth wraidd ein strategaeth ac mae gweledigaeth Adra o ran uwchsgilio鈥檙 gweithlu lleol a defnyddio syniadau arloesol i ddatgarboneiddio鈥檙 stoc tai a deunyddiau adeiladu yn croestorri 芒'n gweledigaeth ni.
听鈥淓r enghraifft, mae ein hymchwilwyr yn ymchwilio i synhwyro optegol ar gyfer ystod o fonitro amgylcheddol, naill ai trwy ymgorffori mewn ceblau data sy'n bodoli eisoes neu drwy baneli clyfar. Rydym hefyd yn profi deunyddiau ar gyfer eu gallu insiwleiddio er mwyn lleihau 么l troed carbon, ac mae datblygiadau hefyd yn cael eu gwneud o ran storio ynni鈥檔 fwy effeithlon yn ogystal 芒 deunyddiau adeiladu fel geo-bolymerau sy鈥檔 defnyddio gwastraff llechi wedi鈥檌 ailgylchu. Mae gan yr Hwb Datgarboneiddio y potensial i ganiat谩u gwaith datblygu, treialu yn y maes a phrofi technolegau a deunyddiau arloesol megis rhain mewn amgylcheddau preswyl 鈥済o iawn鈥.
Mae gan Adra bortffolio o 6,800 o gartrefi a 15,000 o gwsmeriaid lleol. Dywedodd Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra:
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid fel Prifysgol 亚洲色吧 i weld beth sy鈥檔 bosib o ran darparu sgiliau a chyfleoedd i bobl a busnesau lleol.
"Mae partneriaeth gref yn datblygu gyda sefydliadau allweddol i gyflawni ein huchelgais i ddatgarboneiddio cartrefi yn yr ardal, sydd mor bwysig o ran mynd i'r afael 芒 thlodi tanwydd a hybu'r economi leol. Ein Hwb Datgarboneiddio yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae鈥檔 gyffrous i fod yn arwain prosiect mor arloesol a fydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar ein cymunedau.