Mae鈥檙 papur ymchwil (yn ) yn defnyddio data am dymheredd llynnoedd, yn ddata hanesyddol ac yn ddata sydd wedi ei fodelu i edrych pryd mae鈥檙 gwanwyn a鈥檙 hydref yn digwydd fel arfer ledled y byd, er mwyn dangos faint mae tro鈥檙 tymhorau wedi newid yn rhanbarthau gwahanol y byd ac amcangyfrif sut y bydd y tymhorau鈥檔 newid yn y dyfodol.
Ers 1980 mae tymereddau鈥檙 gwanwyn a鈥檙 haf yn hemisffer y Gogledd wedi cyrraedd yn gynharach (2.0- a 4.3- diwrnod fesul degawd, yn y drefn honno), tra bod dyfodiad yr hydref聽 1.5 diwrnod yn hwyrach fesul degawd a bod hyd tymor yr haf wedi ymestyn 5.6 diwrnod fesul degawd. Yn y ganrif hon, o dan senario o allyriadau uchel o nwyon t欧 gwydr, bydd tymereddau cyfredol y gwanwyn a鈥檙 haf yn cyrraedd yn gynharach byth (3.3- a 8.3- diwrnod fesul degawd, yn y drefn honno), bydd tymereddau鈥檙 hydref yn cyrraedd yn hwyrach (3.1 diwrnod fesul degawd), a bydd hyd tymor yr haf yn ymestyn fwyfwy (12.1 diwrnod fesul degawd).
Tra bod temtasiwn efallai i groesawu gwanwyn cynnar a haf hirfelyn tesog, byddai鈥檙 ymateb hwnnw yn un rhy syml. Gall y canlyniadau fod yn drychinebus i fyd natur. O fewn y llynnoedd eu hunain, mae rhywogaethau dyfrol yn ymateb i arwyddion thermol sy鈥檔 cael eu sbarduno gan dymheredd d诺r y llyn. Mewn hinsawdd sefydlog, bydd digwyddiadau tymhorol megis silio yn cyd-ddigwydd gyda digwyddiadau eraill a fyddai, er enghraifft, yn darparu bwyd.
Mae Dr Iestyn Woolway o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧 yn awdurdod blaenllaw yn y maes ac mae ei bapur diweddaraf yn adeiladu ar ymchwil blaenorol gan ddatblygu methodoleg newydd i edrych ar y shifft dymhorol mewn llynnoedd ledled y byd. Mae gwaith tebyg yn bodoli ar gyfer tymereddau aer a thymereddau鈥檙 cefnforoedd, ond dyma鈥檙 ymchwil cyntaf i edrych ar dd诺r croyw, sy鈥檔 adnodd mor hanfodol i鈥檙 byd, yn cynnal yr amgylchedd ac yn diwallu ein hanghenion ninnau.
Un peth y mae鈥檙 papur yn rhoi sylw penodol iddo yw Llynnoedd Mawr Gogledd America. Mae arwynebedd y llynnoedd yn fwy o ran maint na Phrydain Fawr, ac maent yn effeithio ar boblogaethau mawr a gallant hyd yn oed effeithio ar economi America. Mae鈥檔 hawdd codi data manwl am lynnoedd o鈥檙 maint yma yn defnyddio lloerennau. Oni bai am lynnoedd mawrion megis Windermere neu Lyn Tegid, er enghraifft, mae鈥檙 rhan fwyaf o lynnoedd Prydain yn rhy fach i gael eu monitro鈥檔 fanwl yn defnyddio lloerennau. Yn hytrach mae鈥檙 llynnoedd bychain hyn yn cael eu cynnwys mewn efelychiadau ar raddfa leol.
Mae鈥檙 diddordeb mewn ymatebion llynnoedd i newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu yn y pum mlynedd diwethaf. Tra bod y rhan fwyaf o astudiaethau鈥檔 edrych ar newidiadau yn nymheredd llynnoedd unigol neu dymheredd cymedrig mewn nifer fechan o lynnoedd, mae Woolway yn gweithio ar greu darlun byd eang (ac eithrio llynnoedd o dan rew) o batrymau ar raddfa fanwl yn ymatebion llynnoedd i newid yn yr hinsawdd, gan roi gwybod i ni, am y tro cyntaf, sut y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar shifftiau tymhorol mewn llynnoedd.
Fel yr esbonia Woolway, bydd tystiolaeth o amrywiol ffynonellau data lloeren yn galluogi iddo ganfod patrwm neu ymateb cyson, tra bod聽 efelychiadau ensemblau mawr yn ceisio mynd y tu hwnt i鈥檙 ansicrwydd a鈥檙 cyfyngiadau sy鈥檔 anochel yn cael eu cynhyrchu gan fodelau sengl.