Hanes Stad Castell Powis Wedi'i Ddadansoddi yn Narlith Flynyddol Gyntaf y Sefydliad
Cynhaliwyd Darlith Flynyddol gyntaf Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ddydd Mercher, 2 Ebrill. Swynodd yr hanesydd clodfawr a Chydymaith Ymchwil y Sefydliad Dr Melvin Humphreys y gynulleidfa gyda鈥檌 ddarlith graff, o鈥檙 enw 鈥淐astell Powys: Gwydnwch Ystad Aristocrataidd yng Nghymru 鈥 Etifeddiaeth, Cau Tir a Mwyngloddio am Blwm鈥.
Mae Dr Humphreys yn arbenigwr blaenllaw ar ystadau gwledig Sir Drefaldwyn, sydd wedi ymchwilio a chyhoeddi ar hanes cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y rhanbarth. Erys ei waith arloesol, The Crisis of Community: Montgomeryshire, 1680-1815, yn destun hanfodol ar gyfer deall r么l hanesyddol ystadau gwledig yng nghymdeithas Canolbarth Cymru. Mae ei lyfryddiaeth helaeth yn cynnwys Garth: Estate, Architecture and Family (2020) a Plas Newydd and the Manor of Talerddig (2022). Fel Cydymaith Ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae鈥檔 rhannu ein cenhadaeth o ddyfnhau ein dealltwriaeth o ystadau Cymru, felly roedd yn fraint i鈥檞 groesawu fel siaradwr ar gyfer ein Darlith Flynyddol gyntaf. Fel y nododd Dr Humphreys yn ei sylwadau agoriadol, mae yna gysylltiad cryf rhwng Yst芒d Powis a Phrifysgol 亚洲色吧, oherwydd y 3ydd Iarll Powis oedd un o sylfaenwyr y Brifysgol a鈥檌 Llywydd cyntaf. Hyfryd oedd cael yr Iarll ac Iarlles presennol Powis, yn ogystal 芒 chydweithwyr o鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol o Gastell Powys, ymhlith y gynulleidfa fawr iawn a ddaeth ynghyd ar gyfer y ddarlith.

Ar hyn o bryd mae Dr Humphreys yn gweithio ar lyfr newydd a fydd yn darparu astudiaeth gynhwysfawr o ystadau Castell Powys o 1660 hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ganolog i鈥檙 gwaith hwn mae Archif Ystad Powis, un o鈥檙 archifau ystadau mwyaf yng Nghymru, adnodd cyfoethog nad yw wedi鈥檌 ymchwilio鈥檔 ddigonol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Dr Humphreys wedi gweithio鈥檔 agos gyda Murray Chapman a chydweithwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ysgrifennu disgrifiadau catalog ar gyfer holl gofnodion Castell Powis 鈥 ymdrech hynod arwyddocaol a fydd yn sylfaen pwysig ar gyfer ymchwil am flynyddoedd i ddod. Mae Melvin yn taflu goleuni newydd ar y stad gan ddefnyddio'r cofnodion hyn a'r hanesion sydd ynghlwm wrthynt. Archwiliodd ei ddarlith y grymoedd cymhleth sydd wedi sicrhau goroesiad yr yst芒d dros y canrifoedd, o newid patrymau etifeddiaeth i weithgareddau economaidd megis mwyngloddio plwm a chalchfaen. Edrychodd ar symudiad arian i mewn ac allan o鈥檙 yst芒d, gan amlygu cyfnodau pan oedd y gwariant yn fwy na鈥檙 incwm, pan oedd dyled yn bygwth difetha鈥檙 yst芒d, a sut yr addasodd a goroesodd yr yst芒d.
Yn gyntaf, peintiodd Dr Humphreys lun o sut yr ehangodd y teulu Herbert yr yst芒d yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, ar 么l prynu Barwniaeth Powys gyda Chastell Powys ym 1587. Awgrymodd mai un o鈥檙 prif resymau pam y denwyd yr Herbertiaid i Bowis 鈥 ar wah芒n i鈥檞 arwyddoc芒d tywysogaidd a鈥檌 chastell arbennig 鈥 oedd y ffaith bod nifer o faenorau a oedd ynghlwm wrth y Farwniaeth yn medru cael eu hamg谩u, a fanteisiodd y teulu ar hyn yn y 鈥榞wir arddull gyfalafol, ymosodol Duduraidd鈥. Yn ogystal ag amg谩u tir comin, fe brynon nhw nifer o faenorau o amgylch Castell Powys er mwyn adeiladu 鈥榖anc tir鈥, ac mae Dr Humphreys yn amcangyfrif efallai mai yst芒d Powys oedd yr yst芒d fwyaf yng Nghymru erbyn 1700. Hefyd, roedd yna gyfres o briodasau a wnaeth 鈥榞wthio鈥檙 Herbertiaid i鈥檙 raddfa aristocrataidd鈥, gan gynnwys undebau 芒 theuluoedd Craven, Somerset a Preston, a ddaeth 芒 stadau yn Swydd Northampton i'r teulu.
Fodd bynnag, yn ystod y ddeunawfed ganrif, roedd Yst芒d Powis yn llawn dyledion; un o鈥檙 ffigurau mwyaf syfrdanol a glywsom oedd y cynnydd mewn dyled o 拢50,000 yn 1700 i 拢280,000 yn y 1720au, ar incwm o 拢10,000 y flwyddyn. Aeth Dr Humphreys ymlaen i archwilio鈥檙 rhesymau dros y dyledion hyn, gan ddisgrifio darpariaethau ar gyfer plant iau, gan gynnwys gwaddoliadau i ferched, fel 鈥榚lfen hollbwysig yn y broblem dyled鈥. Yn amlwg, roedd yna densiwn yn system ystad dir Lloegr, rhwng cyntafanedigaeth a鈥檙 awydd i ddarparu ar gyfer meibion 鈥嬧媋 merched iau. Ffactor arall oedd rhan y teulu Herbert mewn dau gynllun ariannol a ddaeth i ben gyda chwalfa ariannol, y Mississippi Bubble ym Mharis a鈥檙 South Sea Bubble yn Llundain; credir bod colledion yst芒d Powys o鈥檙 ymdrechion hyn rywle o gwmpas 拢140,000. Wrth gwrs, roedd yna ffactorau 鈥榬hyfedd, unigol鈥 eraill, er enghraifft cwymp William Herbert yn y Chwyldro Gogoneddus yn 1688 a鈥檌 alltudiaeth i Ffrainc gyda Iago II, a arweiniodd at atafaelu ystadau Powys gan y Goron.
Felly, beth achubodd yst芒d Powys? Yn gyntaf oll, llwyddodd yr Herbertiaid i adennill eu hystadau a atafaelwyd oherwydd eu bod wedi鈥檜 clymu mewn 鈥榓neddiadau caeth鈥, felly roedd rhaid iddynt gael eu etifeddu gan ddisgynyddiwr y rhoddwr cyntaf yn hytrach na berthnasau cytras. Bu ambell i enghraifft yn y ddeunawfed ganrif lle methodd llinach wrywaidd y teulu Herbert, a goresgynnwyd y rhain trwy newid patrymau etifeddiaeth. Er enghraifft, gadawodd y dibriod William Herbert, 3ydd Ardalydd Powis (1698-1748), ei ffortiwn i鈥檞 gefnder, a briododd nith yr Ardalydd, aeres yr ystadau dan sylw. Priododd aeres arall, Henrietta Herbert (1758-1830) ag Edward Clive (1754-1839) ym 1784, a llwyddodd eu mab i etifeddu ystadau Powis ar yr amod ei fod yn mabwysiadu enw a teitlau'r teulu Herbert ac yn cefnu ar ei etifeddiaeth Clive.
Fodd bynnag, roedd darlith Dr Humphreys hefyd yn archwilio鈥檙 gweithgaredd 鈥榓r lawr鈥 a alluogodd yr yst芒d i oresgyn eu dyledion. Roedd hyn yn cynnwys darganfyddiad 鈥榞wyrthiol鈥 o wyth茂en 15 troedfedd o led, 500 troedfedd o ddyfnder o fwyn plwm o ansawdd eithriadol o uchel ar dir ystad ym Mynyddoedd y Berwyn ym 1725. Gan fanteisio ar y darganfyddiad hwn, adeiladodd yr yst芒d naw ffwrnais a dechreuodd y broses o fwyndoddi'r plwm hwn a chludo'r cynnyrch i Fryste; rhwng 1725 a 1744 Mwynglawdd Plwm Llangynog oedd y mwynglawdd plwm mwyaf yn Ewrop. Addaswyd gweithrediad cyfan yr yst芒d i gefnogi'r ymdrech ddiwydiannol hanfodol hon. Pwysleisiodd Dr Humphreys pa mor anarferol oedd hi i elw ystad o weithgareddau diwydiannol fod yn fwy na鈥檜 hincwm tiroedd yn y ddeunawfed ganrif, fel ym Mhowis.
Roedd gweithgarwch arall 鈥榓r lawr鈥 yn cynnwys amg谩u tir comin o tua 1760. Yn wir, daeth y cynnydd o 26% mewn rhenti yn y llyfrau rhent o鈥檙 cyfnod hwn yn uniongyrchol o鈥檙 broses amg谩u. Rhoddodd y tiroedd newydd hyn gyfle i'r yst芒d arbrofi i 鈥嬧媍hwarela calchfaen. Adeiladwyd odynau calch, camlesi, a rheilffyrdd newydd, i gyd dan gyfarwyddyd y Stiward Tir John Probert, a oedd yn y swydd o tua 1770 i 1819.
Yn ei sylwadau i gloi, soniodd Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sut yr oedd darlith Dr Humphreys wedi 鈥榙angos sut mae ystadau tir a鈥檜 harchifau yn brismau sy鈥檔 rhoi mewnwelediad cyfoethog i gynifer o agweddau ar fywyd a chymdeithas鈥, o fywydau bythynwyr tlawd a glowyr plwm i r么l menywod, i wleidyddiaeth, yr economi, a diwydiant, pob un yn them芒u y mae'r Sefydliad yn ceisio tynnu sylw atynt drwy ein prosiectau amrywiol. Roedd amser ar y diwedd ar gyfer cwestiynau gan y gynulleidfa cyn dirwyn y noson i ben.
Hoffem estyn ein diolch diffuant i Dr Melvin Humphreys am ei ddarlith graff ac i bawb a ddaeth i Fangor i'w fwynhau. Roeddem yn falch iawn o gael cynulleidfa mor fawr. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth barhaus yn fawr iawn.
Edrychwn ymlaen at gyhoeddiad llyfr newydd Dr Humphreys maes o law.
(Gan Bethan Scorey a Sean Martin)