Angen goruchwyliaeth fwy llym gan fod camymddwyn ariannol yn ysgogi banciau i gymryd risgiau
Mae banciau sy'n wynebu cosbau rheoleiddiol am gamymddwyn ariannol yn tueddu i ddefnyddio arferion busnes mwy peryglus, yn 么l ymchwil newydd.
Mae'r awduron yn rhybuddio y gall camymddwyn ailadroddus neu systemig gyflymu'r broses o gymryd risgiau mewn ffyrdd sy'n gwanhau sefydliadau unigol a'r system ariannol ehangach.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol East Anglia, yr US Department of the Treasury a Phrifysgol 亚洲色吧 wedi defnyddio data o bron i 1,000 o fanciau a restrwyd yn gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau rhwng 1998 a 2023 - cyfnod sy鈥檔 rhychwantu cylchoedd economaidd lluosog gan gynnwys argyfwng ariannol 2007-09.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y , yn dangos bod banciau a gyfeiriwyd at yr awdurdodau am droseddau - yn amrywio o gamliwio i fethiannau mewn systemau gwrth-wyngalchu arian - yn llawer mwy tebygol o ymgymryd 芒 strategaethau gyda llawer o risg a benthyca hapfasnachol.
Gall nodweddion y bwrdd cyfarwyddwyr wneud gwahaniaeth, gyda byrddau mwy a byrddau mwy annibynnol, yn enwedig y rhai sydd ag aelodaeth h欧n neu amrywiol o ran rhywedd, yn aml yn lleddfu effaith negyddol camymddwyn. Fodd bynnag, os oes gan brif weithredwyr lawer iawn o rym neu os yw buddsoddwyr sefydliadol sy鈥檔 canolbwyntio ar y tymor byr yn y fantol, gall hyd yn oed byrddau cadarn gael trafferth ffrwyno ymddygiad peryglus.
Meddai Dr Yurtsev Uymaz o Norwich Business School Prifysgol East Anglia: 鈥淩ydym yn dangos bod camau gorfodi ac achosion cyfreithiol yn erbyn banciau UDA yn gysylltiedig 芒鈥檙 banciau yn cymryd mwy o risgiau. Mae hyd yn oed un cam gorfodi yn cyfateb i risg uwch; yn achos banciau sy'n wynebu camau gweithredu lluosog, gall yr effaith fod yn sylweddol gryfach.
鈥淢ae鈥檔 ymddangos nad oes unrhyw effaith ataliol o鈥檙 ffaith bod banciau sy鈥檔 wynebu camau lluosog yn profi risg uwch fyth.鈥
Dywedodd yr Athro Yener Altunba艧 o Brifysgol 亚洲色吧, 鈥淢ae banciau yn chwarae rhan sylfaenol yn y gwaith o hybu twf economaidd. Mae ymddygiad anfoesegol sy鈥檔 arwain at gymryd risgiau yn gallu cael effaith enfawr, gan danseilio mathau allweddol o gredyd neu waethygu ansefydlogrwydd systemig.鈥
Wrth s么n am y goblygiadau i lunwyr polisi a rhanddeiliaid, megis buddsoddwyr a鈥檙 cyhoedd, meddai Dr Yurtsev Uymaz: 鈥淢ae ein canfyddiadau yn tanlinellu sut y gall methiannau mewn ymddygiad moesegol agor y drws i arferion mwy peryglus. Mae hyn yn effeithio ar sefydlogrwydd y banc ei hun ac mae'n llifo drwodd i'r economi ehangach.
鈥淎r yr un pryd, rydym yn gweld y gall llywodraethu cryf 鈥 ar ffurf byrddau mwy a mwy amrywiol 鈥 helpu lleihau effeithiau andwyol camymddwyn. Fodd bynnag, gall y mesurau diogelu hyn gael eu tanseilio os bydd prif weithredwyr yn defnyddio gormod o rym neu os bydd buddsoddwyr yn gwthio am enillion tymor byr mewn modd ymosodol.
鈥淢ae mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bylchau llywodraethu hyn, tra hefyd yn cryfhau goruchwyliaeth, yn hanfodol i sicrhau bod y sector bancio yn cefnogi yn hytrach na bygwth twf economaidd parhaus.鈥
Mae'r astudiaeth yn ychwanegu at drafodaeth gynyddol o sut y gall camymddwyn gynyddu risgiau systemig - yn enwedig os yw dirwyon, difrod i enw da a chosbau eraill yn defnyddio adnoddau banciau neu'n tynnu鈥檙 sylw oddi ar fenthyca cyfrifol.
Mae'r ymchwilwyr yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys goruchwyliaeth reoleiddiol lymach a gwell atebolrwydd gan fyrddau.
鈥淕allai rheoleiddwyr elwa o graffu ychwanegol ar sefydliadau sydd 芒 hyd yn oed un tordyletswydd wedi ei ddogfennu, yn hytrach na chanolbwyntio鈥檔 unig ar fanciau 芒 chamymddwyn parhaus neu ailadroddus,鈥 meddai鈥檙 Athro Thornton.
鈥淕all sicrhau bod gan fyrddau鈥檙 annibyniaeth, y gallu a鈥檙 amrywiaeth i herio swyddogion gweithredol pwerus helpu i atal strategaethau sydd wedi eu hysgogi gan enillion tymor byr ond sy鈥檔 niweidiol i sefydlogrwydd hirdymor.
鈥淎 dylai ymarferion rheolaidd i brofi straen hefyd gynnwys yn benodol y potensial ar gyfer digwyddiadau cysylltiedig 芒 chamymddwyn, gan gynnwys costau cyfreithiol ac enw da cysylltiedig.鈥
Maent yn ychwanegu y gallai llunwyr polisi archwilio cymhellion neu strwythurau sy'n hyrwyddo meddwl tymor hwy ymhlith buddsoddwyr sefydliadol, gan gydbwyso nodau elw tymor byr iawn 芒 diogelwch systemig.
Cyhoeddir 鈥楩inancial misconduct and bank risk-taking: evidence from US banks鈥, John Thornton, Yener Altunba艧 a Yurtsev Uymaz yn y Journal of Banking & Finance ar 31 March.