Archwilio treftadaeth gyda鈥檔 gilydd: Cyn-filwyr a Phrifysgol 亚洲色吧 yn dod ynghyd
Ddydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Ionawr, croesawodd staff Archaeoleg a Threftadaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas 30 o gyn-filwyr a staff o Alabar茅 Homes for Veterans yng ngogledd a de Cymru i gyfarfod i archwilio鈥檙 sawl ffordd y gall y gymuned cyn-filwyr gyfrannu at ddatgelu'r gorffennol yng ngogledd Cymru.
Cyflwynodd Dr Gary Robinson feysydd addysgu a chryfderau ymchwil y maes pwnc, ac archwiliodd y sawl ffordd y gall y gr诺p gymryd rhan yn yr ysgol, trwy brojectau dysgu yn y cnawd a dysgu o bell.
Siaradodd Dr Kate Waddington, Dr Leona Huey a Dr Karen Pollock am ein dau broject ymgysylltu cymunedol allweddol 鈥 Ecoamgueddfa Ll欧n a Phroject Dorothea 鈥 a fydd yn meithrin cyfleoedd i鈥檙 cyn-filwyr ymgysylltu ymhellach 芒 threftadaeth, iaith a diwylliant, a chymryd rhan mewn projectau ymarferol ar lawr gwlad. Roedd y sgyrsiau gyda'r nos yn cynnig trafodaeth bellach ar gydweithrediadau a chyfleoedd dysgu yn y dyfodol.
Yn ystod sesiwn trin gwrthrychau Rhufeinig yn y prynhawn yn Storiel, cafodd y gr诺p eu cyflwyno i鈥檙 casgliadau Prifysgol eang sy鈥檔 eu defnyddio wrth addysgu, a chawsant daith o amgylch Porth Coffa hardd y Brifysgol.
Lansiodd y digwyddiad gydweithrediad newydd rhwng yr ysgol ac Alabar茅, gyda rhai gwesteion nodedig yn bresennol; Alastair Carns DSO OBE MC AS, Gweinidog dros Gyn-filwyr a Phobl; James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru; a Roxanne Brind o'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr.
Roedd geiriau Mike, cyn breswylydd Alabar茅, wedi cyffwrdd pawb. 鈥淢ae bod yma, gyda phob un ohonoch, yn dysgu am dreftadaeth a chysylltu 芒鈥檙 gr诺p hwn - mae wedi bod yn anhygoel.鈥
Pwysleisiodd Dr Kate Waddington b诺er archaeoleg gyhoeddus, 鈥淩haid i鈥檔 gwaith ymwneud 芒 gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, dod 芒 hanes yn fyw, a gwneud treftadaeth yn hygyrch ac yn ddylanwadol.鈥
Bu鈥檙 Gweinidog Alastair Carns yn trafod ymdrechion i wella cefnogaeth i gyn-filwyr ledled Cymru a Lloegr, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mynediad symlach at adnoddau wedi鈥檜 teilwra i anghenion daearyddol penodol, gan gynnwys anghenion cyn-filwyr benywaidd a lleiafrifol. Tynnodd sylw at yr ewyllys da o fewn y rhwydwaith cefnogaeth i gyn-filwyr, gan nodi, 鈥Gyda biliwn o bunnoedd o gyllid a bron i 2,000 o sefydliadau yn cefnogi cyn-filwyr, yr her yw sut i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf.鈥
Gan gyfuno arbenigedd staff ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ag ymroddiad staff Alabar茅 ac ymrwymiad arweinwyr y llywodraeth, bydd y bartneriaeth yn gweithio i greu cyfleoedd newydd i gyn-filwyr gysylltu, dysgu, a ffynnu. Hwyluswyd y cyfarfod gyda chymorth Simon Frith, Rheolwr Menter Lles yn Alabare, a Tim Jones, Cyn-fyfyriwr Prifysgol 亚洲色吧, a wnaeth y cyswllt cychwynnol.
Dywedodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol, 鈥淩oedd hwn yn ddigwyddiad ffantastig. Roedd y cyn-filwyr wedi mwynhau鈥檙 ddau ddiwrnod yn fawr. Mae gan yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas draddodiad balch o ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned, ac mae ein cydweithwyr Treftadaeth ac Archaeoleg wedi chwarae rhan ganolog wrth gyflwyno digwyddiadau dros nifer o flynyddoedd. Byddwn nawr yn datblygu ein partneriaeth ag Alalbare i helpu eu gwaith rhagorol trwy eu cefnogi i adsefydlu cyn-filwyr trwy wahanol gyfleoedd dysgu.鈥