Ysgariad digidol a rhyddhad ariannol
Lena Buffard (Myfyrwraig)
Ers cyflwyno’r broses ysgaru di-fai ym mis Medi 2021, mae cyfreithwyr wedi adrodd bod cleientiaid yn tueddu i ymdrin â’r achosion ysgariad eu hunain a heb gyngor. Drwy beidio â chael cyngor ar y cam priodol, nid yw pobl bob amser yn sylweddoli bod angen iddynt roi trefn ar eu harian cyn gwneud cais am y gorchymyn terfynol.
wneud cais am ysgariad ar-lein
I ddechrau cais am ysgariad, mae angen i chi nawr ddefnyddio'r platfform MyHMCTS. I gychwyn y broses ysgaru, mae'n rhaid i'r deisebydd fewngofnodi i'r porth, agor cyfrif, a chwblhau'r ffurflenni ar-lein fel y'u cyflwynir. Ers y deddf ysgaru diweddar (Divorce, Dissolution and Separation Act 2022), nid oes angen i’r parti sy’n ceisio ysgariad sefydlu bai ei briod i wneud cais. Bwriad hyn oedd gwneud y cais yn llai gwrthwynebus a'r gobaith oedd y byddai hyn yn arwain at well perthynas i'r partïon gytuno ar drefniadau plant a rhannu asedau priodasol.
Rhannu asedau priodasol
Mae'n hanfodol, fodd bynnag, bod partïon yn cytuno i rannu'r asedau priodasol cyn gwneud cais am y gorchymyn terfynol mewn unrhyw achos ysgariad. Gall methu â gwneud hyn olygu bod y partïon ar eu colled o ran unrhyw hawl posibl. Mae hyn yn cynnwys rhannu pensiynau, eiddo, cynilion a buddsoddiadau.Ìý
Os bydd y partïon yn cytuno i rannu arian ac eiddo, bydd hyn yn eu hatal rhag mynd i'r llys. Bydd angen iddynt wneud cais am orchymyn cydsynio i wneud y cytundeb yn gyfreithiol-rwym. Bydd angen i’r partïon ddrafftio a llofnodi gorchymyn cydsynio a llenwi ffurflen datganiad o wybodaeth (Ffurflen D81) a hysbysiad o gais am orchymyn ariannol (Ffurflen A).
Os na all y partïon gytuno, gallant ofyn i'r llys wneud gorchymyn ariannol. Fel arfer, bydd yr eiddo'n cael ei rannu'n deg pan gaiff ei rannu'n gyfartal rhwng y partïon. Bydd y llys hefyd yn ystyried: Ìý
- Yn gyntaf oll, lles y plant: er enghraifft, os bydd un priod yn cael ei adael gyda'r baich economaidd o ofalu am blant o dan 16 oed.
- Cyfalaf ac adnoddau sydd ar gael: bydd y llys yn edrych ar y sefyllfa incwm bresennol a’u henillion yn y dyfodol a’u hanghenion a’u rhwymedigaethau yn y dyfodol.
- Hyd y briodas: bydd ystyriaethau gwahanol yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Ar gyfer priodasau hir, bydd y llys fel arfer yn ystyried rhaniad 50/50. Ar gyfer priodasau byrrach, mae cyfraniadau cyfalaf yn dod yn fwy perthnasol. Gellir cyhoeddi gorchymyn gwahanu clir (clean break).
- Safon byw yr oedd y partïon wedi arfer ag ef cyn y gwahaniad.
- Unrhyw anallu corfforol neu feddyliol y partïon.
- Cyfraniad partïon: er enghraifft, unrhyw fantais neu anfantais a enillwyd/a ddioddefodd y priod yn ystod y briodas. Gallai hyn gynnwys y ffaith bod un parti wedi rhoi’r gorau i’w gyrfa i ofalu am y plant.
- A oes angen cymorth ariannol ychwanegol ar un priod ar ôl gwahanu.
- A fydd un priod yn dioddef colled difrifol o fudd-dal oherwydd yr ysgariad.
Yn olaf, ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn, ymddygiad gwael: bydd y Llys ond yn ei ystyried os yw mor ddifrifol fel ei fod yn annheg ei ddiystyru.
Mae'n dal yn bosibl ceisio cyfran anghyfartal o eiddo neu asedau. Bydd y llys yn ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig i gyfiawnhau gwyro oddi wrth raniad cyfartal. Mae hyn yn cynnwys:
- Unrhyw gytundeb rhwng y partïon sy’n delio â pherchnogaeth neu rannu asedau (e.e. Cytundeb Cyn Priodas).
- Ffynhonnell yr arian a ddefnyddiwyd i gaffael unrhyw asedau priodasol, os na ddaeth yr arian o incwm y partïon yn ystod y briodas.
- Natur asedau priodasol, eu defnydd, a’r graddau y mae’n rhesymol disgwyl iddynt gael eu gwireddu, eu rhannu neu eu defnyddio fel sicrwydd.
Mater i’r llys o hyd yw penderfynu a yw’n rhesymol gwyro oddi wrth yr egwyddor rhaniad cyfartal.
Os oes angen cyngor arnoch ar ysgariad neu ryddhad ariannol, gallwch geisio cyngor am ddim yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (BULAC). Os hoffech drefnu apwyntiad gyda ni, ffoniwch 01248 388411, neu gallwch hefyd anfon e-bost atom yn bulac@bangor.ac.uk
Ìý
Ìý
Ìý