Mae grant o Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É, a gynhelir gan roddion gan gyn-fyfyrwyr ac a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi galluogi gwaith cadwraeth, adfer a digideiddio cynlluniau gwreiddiol Henry T. Hare o Brif Adeilad eiconig y brifysgol, a gedwir yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y brifysgol.
Wedi'i adeiladu rhwng 1907 a 1911, mae'r strwythur rhestredig Gradd I yn gonglfaen i dreftadaeth bensaernïol Prydain, gan gyfuno arddull 'Tuduraidd Colegol' â dylanwadau Celf a Chrefft a'r Dadeni. Pan ddaethpwyd ar draws darluniau gwreiddiol Hare, roedd eu cyflwr bregus ar bapur dargopïo’n eu gwneud yn anodd eu trin a'u hadfer. Roedd cadwraeth y casgliad yn hanfodol i adfer y tirnod eiconig hwn.
Aeth y Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol ati, gyda chefnogaeth Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É, i ymgymryd â'r gwaith cadwraeth, digideiddio ac adleoli’r cynlluniau. Aeth cadwraethwyr arbenigol ati i sefydlogi, glanhau, ac atgyweirio'r lluniadau, gan eu gwneud yn hygyrch i'w hastudio a'u gwerthfawrogi.
Mae'r cynlluniau digidol hyn bellach ar gael fel dogfennau hanesyddol a lluniadau defnyddiol yn ôl graddfa, a byddant i’w gweld yn fuan trwy gyda gwell disgrifiadau catalog, diolch i broject gwirfoddoli newydd gan fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf.






