Mae Jason Bray, gweinidog ymwared a ordeiniwyd yn arbennig ar gyfe esgobaeth Llandaf, yn gweithio gyda phobl sy’n cael eu cystuddio gan aflonyddwch paranormal ac yn delio â phob math o gyfarfyddiadau goruwchnaturiol, o helbulon, ysbrydion, a melltithion i feddiannau cythreulig posibl. Mae wedi trafod ei brofiadau trawiadol o weithio ar y rheng flaen yn ei lyfr, Deliverance (Coronet 2021) – sydd wrthi’n cael ei addasu’n gyfres deledu – ac ar soffa rhaglen ITV, This Morning. Efallai eich bod wedi gweld ei ymddangosiad cameo yn y gyfres Netflix, Welcome to Wrexham, pan ymwelodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney â San Silyn, Eglwys Blwyf hanesyddol Wrecsam, lle bu’r Parch Bray yn gwasanaethu nes dod yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Llandaf ym mis Medi eleni. Gadawodd y ddwy seren Hollywood gyda chopïau o lyfr y gweinidog wedi’u llofnodi.
Cafodd myfyrwyr ym Mhrifysgol ɫ gyfle i ddysgu am ei brofiadau yn uniongyrchol fel rhan o’u hastudiaethau ysgolheigaidd ar y pwnc, a bydd y Parch Bray yn dychwelyd i siarad â’r garfan nesaf o fyfyrwyr ar y modiwl, ‘Exorcism’.
Dywedodd yr Athro Lucy Huskinson, sy’n goruchwylio’r modiwl, ‘Exorcism’:
“Mae adroddiadau am ysbrydion a chythreuliaid wedi swyno’r dychymyg poblogaidd ar hyd yr oesoedd, ac nid yw'n ymddangos bod ein diddordeb yn lleihau. Mae’r modiwl a addysgir, ‘Exorcism’, yn denu myfyrwyr o bob math o gefndiroedd a disgyblaethau pwnc, y tu hwnt i Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd. Er bod rhai yn awgrymu bod ymwared oddi wrth ysbrydion drwg ar gynnydd, mae eraill yn honni bod endidau demonig yn fynegiant symptomatig o salwch meddwl a dylid eu trin felly. Ond a yw mor hawdd gwahaniaethu rhwng ysbrydion trafferthus a thrallod seicolegol? A ydym yn ddoeth i dybio y dylai pob ‘ysbryd’ gael ei ddileu? A pham bod pobl yn cael eu swyno cymaint gan enghreifftiau posib o ysbrydion a chythreuliaid? Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r cyfle i archwilio’r mathau hyn o gwestiynau, a hwythau’n tueddu i wneud hynny gyda meddwl agored wrth archwilio damcaniaethau ac astudiaethau achos o ysbryd meddiant ar draws traddodiadau seciwlar a chrefyddol. I’r perwyl hwnnw, yr ydym yn hynod ffodus i gael y Parch. Ganon Dr Jason Bray yn siaradwr gwadd ar ein modiwl poblogaidd, ‘Exorcism’, er mwyn trafod rhai o’r mythau am y pwnc, gan adael myfyrwyr â’u llygaid yn lled agored. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Jason eto, ar gyfer y garfan nesaf o fyfyrwyr brwd sydd eisiau darganfod mwy am y pwnc hynod ddiddorol a real hwn.”
Ychwanegodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:
“Rydym bob amser yn awyddus i wahodd siaradwyr gwadd o’r safon hon i’n modiwlau a addysgir gan y gall eu profiadau fod yn amhrisiadwy a chyfoethog i addysg y myfyrwyr. Mae’r Parch. Dr Jason Bray yn un o’r siaradwyr mwyaf cyffrous a deniadol y gallem ei gael. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r modiwl hwn yn fawr ac mae sgyrsiau Jason Bray yn rhoi deunydd gwych iddynt ei ystyried a’i ddadansoddi yn eu hastudiaethau.”
Wrth fyfyrio ar y sgwrs wadd, dywedodd Millie Carman, myfyrwraig BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, yn ei hail flwyddyn:
“Roedd sgwrs yr exorcist yn gyfle anhygoel. Roedd clywed adroddiadau uniongyrchol nid yn unig yn cefnogi’r hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yn y dosbarth, ond hefyd yn herio fy nealltwriaeth o’r byd anweledig, yn enwedig pan soniodd am ei brofiadau ei hun o weithgarwch poltergeist! Roedd yn brofiad unigryw a bythgofiadwy.”
Ac roedd ein myfyrwraig BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd sydd yn ei thrydedd flwyddyn, Gemma Waite, o farn debyg:
“Roedd gwrando ar sgwrs y gweinidog ymwared yn brofiad cyfareddol a chythryblus. Roedd ei sgwrs yn llawn o'i brofiadau ei hun, ond yn dangos agwedd ag iddi fymryn o amheuon a oedd yn ddiddorol i mi, gan ei fod yn gwneud y cyfan yn realistig wrth iddo ddangos nad oedd pob profiad yn brofiad y byd ysbrydol mewn gwirionedd! Roedd pob naratif yn teimlo fel cipolwg ar y tiroedd anweledig, ac fe’m gadawodd yn chwilfrydig! Y rhan fwyaf diddorol oedd ei brofiad yn sôn am y teimlad oer pan fo’r ysbryd yn bresennol a’r ystafell yr oeddem ynddi’n hollol rynllyd, er efallai mai felly roedd pethau am ei bod yn fis Rhagfyr!”
Am ragor o wybodaeth ynghylch y sgwrs neu’r modiwl arbennig yma, cysylltwch ag: Yr Athro Lucy Huskinson (l.huskinson:bangor.ac.uk).