Daeth y digwyddiad nodedig hwn 芒 myfyrwyr ar bob lefel ynghyd, o israddedigion blwyddyn gyntaf i ymchwilwyr PhD, gan roi llwyfan iddynt gyflwyno eu syniadau a鈥檜 hymchwil. Roedd amserlen y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o bapurau yn archwilio athroniaeth, mytholeg, a diwylliant poblogaidd, gan arddangos ymrwymiad yr adran i feithrin creadigrwydd a rhagoriaeth academaidd.
Dechreuodd y diwrnod gyda chroeso cynnes o dan y teitl ysgogol, 鈥淎mser maith yn 么l yng Ngwynedd hoff ...鈥 O hynny, camodd y myfyrwyr i bynciau amrywiol, gan gynnwys diwinyddiaeth yn The Elder Scrolls, safbwyntiau ffeministaidd mewn ffantasi, a moeseg ddirfodol Spider-Man.聽
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd y cyd-drefnydd, Dr Gareth Evans-Jones:
鈥淩oedd hwn yn gyfle arwyddocaol i鈥檔 myfyrwyr ymgysylltu 芒 thema eithriadol ddifyr a chyflwyno papurau craff mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Roedd y prynhawn yn hynod ddiddorol, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran.鈥
Safbwyntiau Myfyrwyr
I lawer o fyfyrwyr, roedd y gynhadledd yn brofiad amhrisiadwy. Cymerodd Megan Keen, myfyriwr israddedig trydedd flwyddyn, ran mewn panel drafod ar ffeministiaeth mewn ffantasi. Dywedodd: 鈥淔el rhywun sy鈥檔 bryderus am siarad yn gyhoeddus, roedd hwn yn gyfle gwych i drafod pwnc rydw i鈥檔 angerddol amdano mewn gofod cyfforddus. Rydw i mor falch o bawb a gymerodd ran!鈥
Cyflwynodd Jack Lowes, myfyriwr BA blwyddyn gyntaf, bapur diddorol ar The Joker trwy lens Nietzscheaidd. Dywedodd: 鈥淩oedd yn anhygoel clywed cymaint o wahanol safbwyntiau athronyddol. Roedd y syniadau鈥檔 haniaethol ac yn hynod ddiddorol, a dysgais gymaint am bynciau nad oeddwn i erioed wedi eu hystyried o鈥檙 blaen.鈥
Dathlu Cydweithio a Chreadigrwydd
O chwedlau cymharol yn trafod creu'r bydysawd聽 i them芒u Cristnogol The Lord of the Rings, dangosodd y gynhadledd ddyfnder ac amrywiaeth ymchwil myfyrwyr o fewn yr adran. Roedd yr awyrgylch gefnogol yn annog deialog ystyrlon, gan adael y cyflwynwyr a'r mynychwyr wedi'u hysbrydoli.
Mae鈥檙 adran yn edrych ymlaen at barhau 芒鈥檙 traddodiad hwn, gan roi cyfle i garfannau鈥檙 dyfodol archwilio syniadau beiddgar, rhannu eu hangerdd, a chael profiad academaidd gwerthfawr.
Am ragor o wybodaeth am gynadleddau myfyrwyr Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧, cysylltwch 芒 Dr Gareth Evans-Jones: g.evans-jones@bangor.ac.uk.