Astudiaeth fawr yn y Deyrnas Unedig yn datgelu canlyniadau siomedig o ran effeithiolrwydd adnodd gofal dementia ar-lein Sefydliad Iechyd y Byd
Mae astudiaeth fawr yn y Deyrnas Unedig i effeithiolrwydd adnodd gofal ar-lein Sefydliad Iechyd y Byd i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia wedi datgelu canlyniadau siomedig.
Asesodd ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol ɫ y defnydd o mewn treial hapsamplu rheolyddedig yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf - a chyhoeddwyd y canfyddiadau’n ddiweddar yn .
Datblygodd Sefydliad Iechyd y Byd iSupport yng nghanol niferoedd cynyddol o bobl yn cael diagnosis dementia, gan gynnwys mewn gwledydd incwm isel a chanolig, ac mewn ymateb i'r galw cynyddol am ymyriadau graddadwy a chost isel i helpu'r unigolion sy'n gofalu amdanynt. Mae trallod ac iselder yn gyffredin ymhlith gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia, sy’n rhoi pris uchel arnyn nhw a’r gymdeithas ehangach.
Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â’r problemau iechyd meddwl a chorfforol sy’n gysylltiedig â gofal, ac i wella ansawdd bywyd yr unigolion sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda dementia. Ers ei ryddhau yn 2019, mae wedi'i weithredu a’i addasu'n ddiwylliannol ar draws 40 o wledydd, ond mae arbenigwyr wedi rhybuddio mai prin yw'r dystiolaeth ar ei effeithiolrwydd.
Er i’r ymchwil ganfod nad yw’n lleihau trallod ac iselder i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia ar hyn o bryd, mae’n dal i gael ei ystyried yn adnodd defnyddiol.
Roedd y treial hapsamplu rheolyddedig yn cynnwys 352 o ofalwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Archwiliodd effeithiolrwydd yr adnodd hyfforddi a chefnogi rhyngweithiol, yn ei fformat presennol fel rhaglen hunan-dywys, o ran lleihau trallod ac iselder. Deellir ei fod yn un o’r treialon hapsamplu rheolyddedig mwyaf erioed i werthuso ymyrraeth ar y we ar gyfer gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia, a’r llwybr rheoli ar hap cyntaf ar raddfa fawr i werthuso effeithiolrwydd iSupport.
Arweiniwyd y tîm ymchwil gan yr Athro Gill Windle, sef Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol ɫ, ac roedd yn cynnwys gwyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Strathclyde, ynghyd ag Alzheimer Scotland ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Dywedodd yr Athro Windle, “Mae iSupport yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr, ond ni welsom ei fod yn lleihau trallod ac iselder ymysg gofalwyr. Canfuom, er eu bod yn llythrennog yn ddigidol, nad oedd gofalwyr a oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil yn defnyddio iSupport gymaint ag a ragwelwyd. Mae’r defnydd isel o iSupport yn awgrymu cyfyngiadau ehangach mewn adnoddau iechyd ar-lein hunan-dywys, sy’n dod yn rhan gynyddol o ddarpariaeth gofal prif ffrwd fel rhan o’r trawsnewidiadau digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
“Gall y rhain fod yn arbennig o gyfyngol mewn gwledydd incwm uchel, lle gall gofalwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau, ac efallai na fyddant yn darparu’r buddion dymunol. Rydym yn awgrymu bod angen cyswllt personol gan weithiwr gofal proffesiynol, neu gefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer cefnogaeth a chyfathrebu therapiwtig, wedi’i deilwra, ochr yn ochr ag adnoddau hunan-dywys.
“Mewn gwledydd incwm isel a chanolig, lle mae adnoddau sydd ar gael i ofalwyr yn gyfyngedig iawn a ddim llawer o gymorth proffesiynol ar gael, os o gwbl, gall addasiadau diwylliannol ac ieithyddol o iSupport fod yn adnodd pwysig mewn gofal dementia.
“Efallai y bydd angen i’r rhai sydd â’r dasg o weithredu feddwl yn greadigol am sut y gallent wella effaith iSupport, er enghraifft trwy gefnogaeth anarbenigol i ddarparu rhywfaint o gyswllt dynol.”
Dywedodd yr Athro Joshua Stott, sy’n ymchwilydd iSupport yn UCL, “Mae’n bwysig nodi, nid yw ein canfyddiadau’n dangos nad yw iSupport yn gweithio, ond oherwydd y lefel isel o ymlyniad ag iSupport, nid oes tystiolaeth ei fod yn gweithio. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau hyn o bosibl yn bwrw amheuaeth ar ddoethineb cyflwyno iSupport yn rhyngwladol, heb oedi, fel sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.”
Un darn o waith oedd y treial hapsamplu rheolyddedig o iSupport, sy’n rhan o’r rhaglen ymchwil hon a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.
Ochr yn ochr â’r treial, ymgymerodd tîm o Brifysgol ɫ, UCL a Phrifysgol Strathclyde ag addasiadau mawr o iSupport, a chynhyrchu adnoddau ar-lein newydd i bobl ifanc, gofalwyr De-Asiaidd yn y Deyrnas Unedig, a gofalwyr pobl sy’n byw â mathau mwy prin o ddementia.
Dywed yr ymchwilwyr fod y rhain yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i’r grwpiau hyn, gan mai aelodau o’r teulu sy’n cefnogi ac yn gofalu am fwyafrif y bobl sy'n byw gyda dementia.