Yn dilyn cymeradwyaeth gan Gyngor y Brifysgol (dydd Llun, 25 Tachwedd), mae鈥檔 bleser gan yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, gyhoeddi bod yr Athro Andrew Edwards wedi cael ei benodi yn Ddirprwy i鈥檙 Is-ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd). Bydd Andrew yn dechrau yn y swydd ar unwaith.聽
Mae Andrew wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i'r Brifysgol yn ystod ei yrfa. Dechreuodd fel academydd yn yr Ysgol Hanes cyn cymryd rolau arweinyddol megis bod yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Cymreig dros Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) ac yn Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Yn 2012, cafodd ei benodi鈥檔 Ddeon y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau, ac ehangodd cylch gorchwyl y swydd honno i gynnwys Busnes yn 2017.聽
Yn 2020, penodwyd Andrew yn Ddirprwy Is-ganghellor gyda throsolwg dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yn y swydd honno, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.聽
Dywedodd yr Athro Edmund Burke: 鈥淢ae Andrew wedi bod yn ganolog i gynnydd academaidd a strategol Prifysgol 亚洲色吧 ers nifer o flynyddoedd. Dechreuodd ar ei yrfa yn yr Ysgol Hanes ac yn raddol mae wedi ymgymryd 芒 swyddi arweinyddol ac iddynt gwmpas a chyfrifoldeb cynyddol, gan ddangos ei ymroddiad i hyrwyddo cenhadaeth y Brifysgol. Rwy鈥檔 gwbl hyderus y bydd yn bwrw iddi yn ei r么l newydd gyda鈥檙 un angerdd a鈥檙 un weledigaeth ag erioed.鈥澛
Ychwanegodd Andrew, "Mae鈥檔 anrhydedd cael fy mhenodi鈥檔 Ddirprwy i鈥檙 Is-ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd). Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi bod yn ganolog i fy nhaith academaidd a phroffesiynol. Dwi鈥檔 edrych ymlaen at weithio鈥檔 agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i hyrwyddo ein blaenoriaethau academaidd, meithrin rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, a sicrhau鈥檙 profiad gorau posibl i鈥檔 myfyrwyr.鈥 聽
Fel y dywedwyd eisoes, bu i ymadawiad y Dirprwy Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang) ysgogi adolygiad strategol o'r r么l. Cytunwyd i ailddiffinio鈥檙 portffolio, gan ymddiried y cyfrifoldebau hynny i鈥檙 Dirprwy presennol i鈥檙 Is-ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull, sydd bellach wedi ymgymryd 芒 swydd Dirprwy i鈥檙 Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang). 聽
Yng ngoleuni鈥檙 penodiadau hyn, bydd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn ysgwyddo鈥檙 cyfrifoldeb dros y Gymraeg, bydd yr Athro Morag McDonald, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn ysgwyddo鈥檙 cyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol yn ysgwyddo鈥檙 cyfrifoldeb dros Ymgysylltu Dinesig a Phartneriaethau Strategol. 聽
Trwy wneud y penodiadau mewnol a strategol hyn, mae'r Brifysgol yn parhau i gryfhau ei th卯m arweinyddol, ac yn sicrhau ei bod mewn sefyllfa dda i lywio trwy dirwedd addysg fyd-eang sy鈥檔 gynyddol gystadleuol. 聽