ISWE yn Croesawu Ymchwilwyr Doethurol Newydd
Ym mis Hydref, roedd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn hapus i groesawu tri ymchwilwyr newydd i'n cafarn ddoethurol!Ìý
Gan ddod o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, newydd ddechrau eu teithiau ymchwil ôl-raddedig y mae Daisy, Hannah ac Ieuan, ond mae ganddynt eisoes lawer i’w rannu am eu pynciau ymchwil priodol, ac yn sicr llawer mwy i’w gyfrannu i raglen ISWE dros y blynyddoedd i ddod.
Nid yw Daisy Hughes yn ddiethr i fywyd academaidd yng ngogledd Cymru, wedi cwblhau ei graddau BA ac MA yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae PhD Daisy yn canolbwyntio ar hanes merched yn yr oes fodern cynnar, gyda ffocws arbennig ar rolau a phrofiadau merched mewn ystadau, a’r modd y caiff eu bywydau a’u straeon eu cynrychioli mewn dehongliad treftadaeth tai gwledig cyfoes. Fel mae Daisy yn egluro:
"Fy cenhadaeth yw treiddio yr archifau ystadau, gan amlygu sut yr oedd menywod yn llunio llwyddiant tai gwledig yn Sir Gaer a Gogledd Cymru rhwng 1600 a 1800. Gan ddefnyddio ffynonellau archifol fel dyddiaduron, llyfrau cyfrifon, a llythyrau, byddwn yn dod â'r straeon hyn yn ôl yn fyw ac yn herio syniadau hen-ffasiwn am bwy a oedd wir yn rhedeg y sioe."
Bydd ymchwil Daisy yn tynnu sylw at rolau menywod, sydd mor aml yn cael eu hanwybyddu, ym maes rheoli tir, eu rhan yn gwneud penderfyniad arwyddocaol, ac ei rol yn gwleidyddiaeth yr oes, ac felly’n ysbrydoli naratif mwy cytbwys sy’n cydnabod cyfraniadau hanfodol menywod i hanes tai gwledig ac ystadau.
Mae Daisy hefyd methu aros cyfrannu at broffil deallusol ac agwedd gymdeithasol ISWE:
"Rwy’n hoff iawn o’r gwaith y mae ISWE yn ei wneud, mae’n wirioneddol hynod ddiddorol, fel casgliad o waith ac fel cymuned. Rwy’n gyffrous iawn fy mod wedi llwyddo i gael mewn!"
Mae taith Hannah Jones i ddod yn ymchwilydd ôl-raddedig mewn Hanes Cymru efallai ychydig yn llai confensiynol. Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, mae gan Hannah gefndir trawiadol yn y gwyddorau naturiol, gan gynnwys sawl blwyddyn yn cynnal ymchwil mewn bioleg foleciwlaidd. Fodd bynnag, ni chollodd erioed ei hangerdd cryf dros hanes, yn enwedig hanes tirwedd a hanes lleol, a’i diddordeb mewn ‘ymdeimlad o le’. Ar gyfer ei phrosiect doethurol, mae Hannah yn ymchwilio i hanes gwledig Sir Gaerfyrddin, gan astudio’r dirwedd a chymdeithas plwyf Llanarthne. Gan ddefnyddio dull ‘mapio dwfn’, bydd yn archwilio newidiadau yn y dirwedd a’r defnydd o’r tir dros amser, drwy haenu mapiau a defnyddio deunyddiau archifol eraill i greu mapiau o dirweddau cynharach, ac i weld sut y maent wedi trawsnewid dros y blynyddoedd. Yng ngeiriau Hannah:
"Rwy’n gobeithio pwysleisio hanes y Drefgordd a’r Plwyf fel unedau gweinyddol a phwysigrwydd ffiniau a’u canfyddiad gan y gymuned leol. Yn ogystal, rwyf am edrych ar sefydliadaeth a thwf ystadau lleol ar draws y plwyf, y tensiynau a greodd hyn, a’r effaith a gafodd ar y boblogaeth leol."
O hyn, mae Hannah yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o arwyddocâd a defnyddiau o ffiniau hanesyddol, a’u heffaith ar y syniad o ‘lle’, ac ar yr un pryd, drwy astudio plwyf Llanarthne, datblygu dealltwriaeth ddyfnach o hanes gwledig Sir Gaerfyrddin a’i ryngweithiad gyda’r ystadau tir yn y rhanbarth.
Nid oes angen cyflwyniad ar ein trydydd ymchwilydd doethurol. Mae Ieuan Wyn Jones wedi bod yn ganolog i fywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru am bron i ddeugain mlynedd. Ar ôl treulio 13 mlynedd yn ymarfer fel cyfreithiwr, fe’i hetholwyd yn AS dros Ynys Môn yn 1987, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ac fe wasanaethodd fel arweinydd Plaid Cymru am dros ddegawd o 2000 ymlaen. Yn 2007 fe’i hetholwyd yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru. Bydd prosiect ymchwil Ieuan yn asesu'r cyfraniad a wnaed gan Thomas Edward Ellis, yr AS Rhyddfrydol dros Feirionnydd 1866-99, i fywyd gwleidyddol Cymru yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfnod o radicaliaeth ac ail-ddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol Cymraeg.
Gyda'u pynciau cyffrous ac amrywiol, ac yn dod â egni newydd, brwdfrydedd ac angerdd academaidd, mae Ieuan, Hannah a Daisy yn bendant am wneud cyfraniadau sylweddol tuag at ddealltwriaethau cyfoethocach o hanesion, diwylliannau a thirweddau Cymru – gan ehangu cylch gorchwyl deallusol, hanesyddol a daearyddol ISWE, tra hefyd yn cyfoethogi ein cymuned.
Sylwodd Cyfarwyddwr ISWE, Dr Shaun Evans:
‘‘Mae’n wych croesawu Hannah, Daisy ac Ieuan i’r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae pob un ohonynt yn dod ag ystod wych o sgiliau, profiadau a diddordebau i’w prosiectau ac rwy’n gyffrous iawn am eu hymchwil. Bydd prosiect Ieuan yn goleuo bywyd a gyrfa un o ffigurau mwyaf dylanwadol gwleidyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn arbennig y cwestiynau gwleidyddol hynny sy’n cydgyfeirio ar dir a grym y bonedd. Mae Hannah wedi bod yn gwneud gwaith gwych ar hanes tirwedd Sir Gaerfyrddin ac rwy’n falch iawn y bydd ei phrosiect yn symud ein gwaith ar ‘Fapio Dwfn Archifau Ystadau’ yn ei flaen. Mae prosiect Daisy yn pontio’r meysydd ymchwil archifol a dehongli treftadaeth, ac yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i’n rhaglen waith ehangach ar fenywod, tir a’r plasty gwledig. Dymunaf bob lwc iddynt gyda’u prosiectau, gobeithio y byddant yn mwynhau astudio fel rhan o gymuned ISWE ac edrychaf ymlaen at weld a thrafod canlyniadau eu hymchwilion.’’
Ìý
Gallwch ddilyn cynnydd ein holl brosiectau doethurol yn:ÌýÌý
Ìý
Croeso i ISWE, a phob lwc efo’ch ymchwil!