Ddydd Mawrth, 1 Hydref, traddododd y Parch. Ganon Sarah Jones, ficer Dinas Plwyf Sant Ioan Fedyddiwr, Caerdydd, a Chanon Anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Llandaf, ddarlith ysbrydoledig yn Neuadd PJ, Prif Adeilad y Celfyddydau. Roedd Sarah wedi creu hanes drwy fod y person cyntaf i gael ei hordeinio yn Eglwys Loegr ar 么l newid rhyw. Er iddi wynebu sylw eithriadol gan y cyfryngau a beirniadaeth gan garfanau ceidwadol, roedd ffydd ddiwyro Sarah a chefnogaeth ei phlwyfolion a鈥檌 hesgob yn enghreifftio gwytnwch a chynwysoldeb yn wyneb adfyd.
Roedd sgwrs Sarah, a drwythwyd ag angerdd, ffraethineb, a mewnwelediad dwys, yn rhannu ei thaith gyda ffydd, hunaniaeth, a鈥檌 chenhadaeth i hyrwyddo amrywiaeth a charedigrwydd. Wrth siarad 芒 myfyrwyr a staff, pwysleisiodd bwysigrwydd gofalu am gymorth i鈥檔 gilydd, mynd i'r afael 芒 chasineb, a meithrin cymunedau cynhwysol.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd, 鈥淢ae Sarah yn berson mor ysbrydoledig 鈥 mae ei phersbectif unigryw ar Gristnogaeth, cynwysoldeb, a chymdeithas yn wirioneddol arwyddocaol, ac roedd gallu ei chlywed yn siarad am yr agweddau yma, yn ogystal 芒 rhai eraill, yn arbennig. Rydym yn ffodus ein bod wedi gallu croesawu Sarah i Fangor ac edrychwn ymlaen at ei gweld yma eto.鈥
Mae Sarah wedi bod yn gefnogwr brwd i Brifysgol 亚洲色吧 ers tro, ac eleni hefyd, cymerodd ran mewn cyfweliad ar-lein ar gyfer Mis Hanes LHDTC+ ym mis Chwefror, fel un o ddigwyddiadau Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas.
Wrth i Fis Ymwybyddiaeth Trawsrywedd barhau trwy gydol mis Tachwedd, dyma amser i addysgu, eirioli, a dathlu cyfraniadau unigolion traws. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan .