Ymchwilwyr Prifysgol ɫ yn Cyflwyno Mewnwelediadau Amlieithrwydd o Gymru Dramor
Ym mis Medi, cyflwynodd tîm o Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol ɫ symposiwm ar ‘ddwy/amlieithrwydd ac anhwylderau iaith’, ym Mhrifysgol Genedlaethol a Kapodistraidd Athen, Gwlad Groeg. Roedd gweithgaredd y labordy yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng Labordy Seicoieithyddiaeth a Niwroieithyddiaeth Prifysgol Genedlaethol a Kapodistraidd Athen a’r Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol ɫ, wedi ei ariannu yn rhannol gan Gynllun Symudedd Taith.
Arweiniwyd y symposiwm gan Dr Eirini Sanoudaki, Darllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd) a Phennaeth y Labordy Dwyieithrwydd Plant. Roedd Eirini hefyd yn un o’r siaradwyr gwadd yn y 9fed Gynhadledd Anhwylderau Iaith mewn Groeg, yn traddodi sesiwn lawn ar ‘Amlieithrwydd a Niwroamrywiaeth: mewnwelediadau o Gymru’. Cyflwynodd ymchwilwyr PhD presennol, Meinir Williams, Rebecca Day, a Bethan Collins, eu hymchwil, gan gynnwys creu lleisiau plant Cymraeg ar gyfer Gyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC), dwyieithrwydd mewn syndrom Rett, a phrosiect amlddisgyblaethol rhwng Gwasanaeth Dydd Annedd Ni a Blas Pontio i annog y defnydd o’r Gymraeg mewn oedolion ag anableddau amrywiol drwy ymgysylltu â’r celfyddydau.
Dwedodd Eirini, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, “mae Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ar ddwyieithrwydd. Mae gennon ni ddyletswydd i rannu ein harbenigedd efo gweddill y byd, ac i gymryd rhan arweiniol yn y newid patrwm sy’n digwydd ym meysydd amlieithrwydd a nirwoamrywiaeth. Rwy’n arbennig o hapus bod gan y fenter hon lwyfan I'n hymchwilwyr PhD rhagorol i hybu eu cysylltiadau a’u modd o sicrhau newid, nid yn unig yng Nghymru ond yn fyd-eang.”
Roedd y daith yn gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr rhyngwladol i drafod y datblygiad yn y maes ymchwil, i daflu syniadau ar brosiectau yn y dyfodol, a ac i arddangos yr ymchwil arloesol ar ddwy/amlieithrwydd sy’n cael ei wneud ym Mangor.