Dr Heather He - Cynhadledd FlynyddolOR66 2024
Gwasanaethodd Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data/Dadansoddeg yn Ysgol Busnes ɫ, fel aelod o bwyllgor trefnu Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ymchwil Weithredol, OR66, a ddychwelodd i Brifysgol ɫ eleni am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd, “Mae’n wych gweld OR66 yn dychwelyd i Fangor. Mae wedi bod yn anrhydedd mawr i fod yn rhan o bwyllgor trefnu’r gynhadledd a chadeirio ffrydiau.”
Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau arloesol, gan gynnwys ffrwd newydd ar “Dwristiaeth a Lletygarwch." Trefnwyd y ffrwd gan Linda Osti o Ysgol Busnes ɫ, Stefania Escobar o Brifysgol Rydd Bozen-Bolzano, a Heather, a chroesawodd y ffrwd hon lawer o gyflwyniadau o ansawdd uchel gan gydweithwyr yn Ysgol Busnes ɫ ac arbenigwyr rhyngwladol. Roedd y cyflwyniadau’n archwilio sut y gellir defnyddio dulliau ansoddol a meintiol ymchwil weithredol i fynd i’r afael â heriau yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
Roedd Heather hefyd yn cyd-gadeirio’r ffrwd “Addysg mewn Ymchwil Weithredol a Dadansoddeg" gyda Dr. Marios Kremantzis o Brifysgol Bryste, gan ganolbwyntio ar fanteision a heriau integreiddio Cynhyrchu trwy Ddeallusrwydd Artiffisial (GenAI) i addysg uwch.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, ychwanegodd Heather, “Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig gweld cymaint o unigolion dawnus yn rhannu eu dealltwriaeth a’u hymchwil. Rwy’n arbennig o falch o’r cyfranogiad cryf gan ein cydweithwyr yn Ysgol Busnes ɫ. Mae’r gynhadledd wedi bod yn gyfle gwych i arddangos ein gwaith a meithrin trafodaethau gwerthfawr a fydd, gobeithio, yn arwain at gydweithio ac arloesi yn ein maes yn y dyfodol.”