Cronfa ɫ yn cefnogi cynllun cyfnewid rhyngwladol i fyfyrwyr coedwigaeth a rheoli coetiroedd
Cymerodd grŵp o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, ynghyd â Dr Ashley Hardaker, Dr Tim Peters a Dr Tim Pagella, ran mewn cynllun cyfnewid rhyngwladol gyda Phrifysgol Freiburg. Gyda chyllid gan Gronfa ɫ, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, cychwynnodd y grŵp ar daith wythnos o hyd o amgylch coetiroedd yn ne orllewin Lloegr, gan feithrin dysgu trawsddiwylliannol ym maes coedwigaeth a rheoli coetiroedd.
Deilliodd y cyfnewid o drafodaethau rhwng staff ɫ a Freiburg, gan arwain at daith astudio ar y cyd gyda'r nod o gynyddu’r wybodaeth a rennir rhwng y ddwy brifysgol. Caniataodd y daith i fyfyrwyr ɫ ymweld â gwahanol safleoedd, gan gynnwys Fforest y Ddena, Coedwig Lady Park, a choetiroedd yn Nyffryn Gwy. Roedd y prif ymweliadau yn cynnwys ymweld â phroject creu coetir yng Nghwm Fagor a thaith o amgylch coedwigoedd derw hynafol Exmoor, dan arweiniad arbenigwyr a rannodd eu gwybodaeth am reoli coetiroedd, cadwraeth, a phrosesau ecolegol.
Trwy gydol yr wythnos, cafodd myfyrwyr gyfle i ddysgu am arferion coedwigaeth, cyfnewid syniadau, gwneud ffrindiau a mwynhau’r golygfeydd hyfryd. Cafodd y myfyrwyr gyfle i drafod materion fel gwrthdaro buddiannau o ran defnydd tir, strategaethau cadwraeth, a dyfodol coedwigaeth yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen. Daeth y daith i ben gydag ymweliadau â choetiroedd Dugiaeth Cernyw a Landhydrock House yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Meddai Dr Ashley Hardaker, “Roedd y daith yn brofiad addysgol pwysig i’r myfyrwyr, ac maen nhw’n hynod ddiolchgar am hynny.”
Meddai Persida Chung, Swyddog Datblygu, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyn-fyfyrwyr am eu cyfraniadau hael at Gronfa ɫ. Mae eu cefnogaeth yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiadau ystyrlon a chofiadwy yn ystod eu cyfnod ym Mangor.”