Bydd Phương yn cyfrannu at ymchwil arloesol ar lywodraethu systemau iechyd a chyfyngiant ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR). Mae’r rôl hon yn rhan annatod o astudiaeth ryngwladol ansoddol sy’n ymchwilio i effaith strwythurau llywodraethu ar bolisïau AMB yn Kenya a Fietnam. Gan weithio ochr yn ochr ag uwch ymchwilwyr, bydd yn cyfrannu at ddatblygu cynigion ymchwil, cynnal adolygiadau llenyddiaeth, a defnyddio dulliau ethnograffeg megis cyfweliadau ac arsylwadau. Mae’r cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys dadansoddi data ansoddol, ysgrifennu adroddiadau, ac ymgysylltu gweithredol â rhanddeiliaid ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Phương, “Mae sicrhau’r rôl hon yn OUCRU yn Fietnam yn teimlo fel penllanw fy siwrnai ers graddio gydag MA mewn Polisi Cymdeithasol o Brifysgol ɫ chwe mis yn ôl gyda chefnogaeth cymaint o bobl. Mae’n arwydd o gymhwyso fy ymdrechion academaidd i heriau byd-eang real, yn enwedig mewn meysydd fel llywodraethu system iechyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd i ymchwil sy’n dylanwadu ar bolisi ac yn gwella canlyniadau iechyd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn fyd-eang."
Wrth fyfyrio ar y newyddion da hwn, dywedodd Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, “Mae Phương Anh wedi gwneud yn arbennig o dda i gael y swydd hon ac mae’r MA Polisi Cymdeithasol o Brifysgol ɫ wedi ei pharatoi’n arbennig ar gyfer y tasgau ymchwil y bydd yn eu cyflawni. Tra ym Mangor, bu’n gweithio’n galed iawn ac fe wnaethom hyd yn oed ysgrifennu pennod gyda’n gilydd ar ddosbarth ac UBI ar gyfer llyfr wedi’i olygu a gyhoeddir yn 2026.”