ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Greulag geese seen on bank of lake

Efallai na fydd rhywogaethau allweddol yn gallu byw mewn ecosystemau llynnoedd o fewn canrif

Llynnoedd ar ledredau is, sydd ddim yn rhewi, sydd fwyaf mewn perygl o gynhesu gormod yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Geoscience.

Mae’r astudiaeth fodelu wnaethon ni, oedd yn edrych ar filoedd o lynnoedd ledled y byd, yn awgrymu y gallen ni fod yn nesáu at gyfnod nad ydan ni wedi gweld ei debyg o’r blaen o ran tymheredd llynnoedd, ac mi allai hynny ddigwydd mor fuan â diwedd y ganrif yma. 

Yn ôl y canlyniadau mi fedrwn ni ddisgwyl cofnodion sy’n ddigynsail yn y cyfnod modern, ac mae hynny’n siŵr o effeithio ar ba mor hyfyw ydy’r ecosystemau yma.

Dr Iestyn Woolway,  Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC (Darllenydd), Ysgol Gwyddorau Eigion

Gallem weld yr amodau hyn yn digwydd cyn gynted ag y bydd yr hinsawdd wedi cynhesu gan 2.4° C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol yn y lledredau is a gan 4°C yn y lledredau uwch.

Mae rhagweld pryd y bydd hyn yn digwydd yn allweddol wrth ystyried unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i warchod yr ecosystemau gwerthfawr hyn.