Llwyddiant Syfrdanol: Symposiwm Doethurol 2024
Newyddion da i bawb sy’n ymwneud â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, wedi’r Symposiwm Doethurol gael ei gynnal eleni ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol ɫ, ar y 3ydd o Fehefin.
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ddiymwad, gyda’r gynulleidfa’n cael eu trin i amrywiaeth eang o bapurau hynod ddiddorol, arloesol a phryfoclyd a oedd yn arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan ISWE a’i bartneriaid wrth gyfrannu at y ddadl hanesyddiaethol ar Ystadau Cymru, ac yn dangos pwysigrwydd hanesyddol, ac yn wir, parhaus y plasty Cymreig i ddiwylliant, cymdeithas, a gwleidyddiaeth y wlad.
Yn amrywio o gyflwyniadau a throsolwg damcaniaethol, i astudiaethau manwl o draethodau ymchwil sydd ar fin cwblhau, roedd Symposiwm ISWE yn gyfle i’w garfan ddoethurol drafod y syniadau oedd wrth wraidd eu prosiectau, ac i rannu’r gwaith cyffrous gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaed hyn mewn awyrgylch ysgogol ddeallusol ac yn academaidd galonogol, gyda chyfraniadau hanfodol a bywiog gan y gynulleidfa a ddarparodd drafodaethau diddorol ac arwyddocaol ar bob pwnc a godwyd.
Effaith y fformat rhyngweithiol a chydweithredol hwn oedd dangos natur amlddisgyblaethol yr ymchwil sy’n cael ei chynnal gan fyfyrwyr doethurol ISWE. Gan ganolbwyntio ar bynciau fel hanes menywod a ffeministaidd, ymchwil tirwedd, daearyddiaeth a’r gwyddorau naturiol, llenyddiaeth Saesneg, hanes pensaernïol, a’r gyfraith, roedd y papurau yn arddangos ehangder ac ystod eang y gwaith sy’n cael ei wneud gan y garfan, ar brosiectau a ddaw o bob cwr o Gymru. Ar ddiwedd y dydd dywedodd Llywydd ISWE, Robin Grove-White, bod y digwyddiad yn “ddathliad o amrywiaeth” yr ymchwil sy’n cael ei gynnal gan y Sefydliad, a llongyfarchodd bob siaradwr am eu gwaith rhagorol drwy gydol y flwyddyn.
Roedd y Symposiwm hefyd yn gyfle i gwrdd a sgwrsio gyda hen ffrindiau, tra hefyd cyflwyno ychydig o wynebau newydd i'r grŵp, a hyn i gyd mewn awyrgylch gyfeillgar a hwylus sydd wedi datblygu yn nodweddiadol o’r ffordd mae ISWE yn gweithredu. Yn wir, ymhlith y pwysau o gyflwyniadau, dadansoddi a thrafod deallusol trwyadl, gan gynnwys cwpanau helaeth o ddiodydd caffein, cafwyd llawer o hwyl? a chwerthin, a’r uchafbwynt arbennig oedd y serenadu hyfryd o’r gynulleidfa gan Vic Tyler-Jones, a roddodd berfformiad unigryw o'r gân Somewhere over the Rainbow!
Rhaid rhoi diolch arbennig i Gyfarwyddwr y Sefydliad, Dr Shaun Evans, a’i gyd-sylfaenydd Dr Lowri Ann Rees, am eu hymdrechion yn trefnu’r digwyddiad, yr unigolion a chyfeillion ISWE a roddodd o’u hamser i fynychu, ac a gyfrannodd mor wych i’r trafodaethau, ac wrth gwrs, i’r siaradwyr eu hunain, am rannu eu syniadau a’u gwaith gyda’r gynulleidfa. Gadewch i ni obeithio y bydd y symposiwm nesaf yn efelychu llwyddiant syfrdanol eleni!
Llongyfarchiadau i chi gyd!
(Gan Sean Martin)