Sefyllfa Ariannol a Chynllun Cynaliadwyedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae’n gyfnod heriol i’r sector Addysg Uwch ar hyn o bryd o ganlyniad i flynyddoedd o beidio a gwneud addasiadau chwyddiant i ffioedd israddedigion cartref, ac o ganlyniad i gostau cynyddol. Mae newidiadau diweddar i bolisïau fisa, sydd wedi effeithio ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, wedi gwaethygu'r anawsterau hyn ymhellach, gan olygu bod angen cymryd camau i arbed costau ym mhob prifysgol bron â bod.
Nid yw Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn disgwyl y bydd yn agor unrhyw gynllun diswyddo gwirfoddol ledled y brifysgol nac yn llunio unrhyw achosion busnes dros ddiswyddiadau gorfodol ar raddfa fawr.
Effaith Ffioedd Myfyrwyr
Ym Mangor, rydym yn rhoi gwerth ar fyfyrwyr rhyngwladol ac ar y cyfraniad a wnânt at greu cymuned fywiog ac amrywiol. Mae eu ffioedd nhw, a ffioedd myfyrwyr cartref, yn hanfodol i’n hiechyd ariannol. O gymharu â llawer o brifysgolion, sy'n cael oddeutu 25% o'u hincwm o ffioedd rhyngwladol, mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn llai dibynnol ar y ffynhonnell honno, gyda ffioedd rhyngwladol yn cyfrif am 16% o'n hincwm y llynedd. Fodd bynnag, mae'r rheolau fisa newydd wedi cael effaith sylweddol ar recriwtio myfyrwyr.
Nid yw'r incwm a ddaw o ffioedd israddedigion cartref wedi cadw i fyny â chwyddiant. Nid yw'r cynnydd bychan i £9,250 yng Nghymru wedi gwneud yn iawn am y gostyngiad yn y grant addysgu a gawn.
Yn ogystal â heriau recriwtio, mae prifysgolion yn wynebu costau cynyddol.
Addasu Cyllidebau ac Arbedion Cost
Cydnabu’r Brifysgol ym mis Ionawr, yr angen i arbed tua 8% o’n cyfanswm costau.
Trwy adolygiad cynhwysfawr, rydym wedi nodi arbedion trwy gael gwared ar swyddi gweigion a manteisio ar swyddi a ddaw’n wag wrth i staff adael. Hefyd, rydym wedi nodi arbedion o ran treuliau ac rydym yn bwrw iddi i weithredu’r arbedion hynny. Rydym hefyd yn bwriadu torri costau dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn symleiddio ein gweithrediadau ymhellach. Yn ychwanegol ar hynny, ydym yn gwella effeithlonrwydd yr addysgu trwy leihau nifer y modiwlau sydd ag ychydig iawn o fyfyrwyr yn cofrestru arnynt a bwriadwn hybu rhagor o fyfyrwyr i aros yn y neuaddau preswyl, sydd â rhywfaint o lefydd gwag ynddynt ar hyn o bryd. Ar ben hynny, rydym yn craffu ar wariant cyfalaf, a dim ond y projectau mwyaf hanfodol yn strategol fydd yn cael blaenoriaeth o ran eu cyllido.
Overall, the University Executive is taking a measured approach as we look to rebalance our income and expenditure. We are confident in our ability to navigate these financial challenges and emerge stronger, thanks to the support and understanding of our staff and stakeholders.Â