Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn y traean uchaf yng Nghynghrair Prifysgolion y Byd QS 2025
Gyda dros 1500 o sefydliadau wedi'u gwerthuso yng , mae ÑÇÖÞÉ«°É wedi sicrhau’r 474ain safle, gan ddringo 7 safle o'i gymharu â'r llynedd. Mae hyn yn gosod Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ymhlith y 32% uchaf o'r holl brifysgolion sydd wedi'u rhestru.
Gwnaethom yn well mewn rhai dangosyddion perfformiad, yn nodedig felly yn nangosydd y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol (IRN) lle bu i ni ddringo 94 safle i safle 409. Mae'r dangosydd hwn, lle sgoriom 75/100, yn mesur gallu'r sefydliad i greu partneriaethau ymchwil cynaliadwy ar raddfa ryngwladol.
Gwelwyd cynnydd nodedig arall yn y dangosydd Dyfyniadau fesul Academydd, lle cododd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 25 safle i sicrhau ei lle yn y 350 uchaf (321ain). Mae'r metrig hwn, sy'n cyfrannu 20% at y sgôr gyffredinol, yn mesur effaith a safon ymchwil academaidd yn seiliedig ar nifer cyfartalog y dyfyniadau fesul academydd.
Gwelwyd gostyngiad o 31 o safleoedd yn y dangosydd Cynaliadwyedd, sy'n gwerthuso effaith gymdeithasol ac amgylcheddol prifysgolion yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDGs). Er gwaethaf y cwymp, dyma'r dangosydd sy’n parhau i fod â’r sgôr uchaf o 83/100 ac rydym yn cadw ein safle yn y 150 uchaf (139).
O ran metrigau rhyngwladol, mae’r brifysgol yn cynnal ei safle o fewn y 300 uchaf ar gyfer y ganran o Fyfyrwyr Rhyngwladol, er gwaethaf gostyngiad bach o 13 safle. Gwelwyd gostyngiad hefyd o ran ein safle yn y 400 uchaf ar gyfer y ganran o Academyddion Rhyngwladol, gyda chwymp o 25 safle, er bod y sefydliad yn aros yn y 450 uchaf (416).