Ymweliad gan Gydweithwyr Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens
Ar 8fed o Fai, ymwelwyd â ni gan ymchwilwyr o Brifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens (Gwlad Groeg) fel rhan o gydweithrediad ymchwil newydd rhwng Labordy Dwyieithrwydd Plant (Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Cymru) a Labordy Seicoieithyddiaeth a Niwroieithyddiaeth (Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens). Mae'r cydweithrediad hwn yn derbyn cyllid rhannol gan Gynllun Symudedd Ymchwil Taith Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Â
Yn ystod eu hymweliad, mynychodd Dr Evangelia Kyritsi a Dr Michalis Georgiafentis gyfarfod Labordy Dwyieithrwydd Plant i glywed am y gwaith rydym yn ei wneud. Buom yn trafod materion yn ymwneud ag amlieithrwydd mewn plant sydd â datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol. Buom hefyd yn trafod y gwaith sy’n cael ei wneud yma ym Mangor a throsodd yng Ngwlad Groeg i hybu ein dealltwriaeth o’r meysydd hyn, a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi teuluoedd unigolion sydd â chyflyrau sy’n effeithio ar ddatblygiad iaith.Â
Rhoddodd yr ymwelwyr sgyrsiau Cylch Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É, yn cynnwys sgwrs wedi ei gyflwyno gan Dr Kyritisi ar ‘plant ag anawsterau lleferydd ac iaith mewn cartrefi ac ysgolion dwyieithog/amlieithog’ i ddiweddaru staff a myfyrwyr yn yr adran ehangach ar y gwaith sy’n cael ei wneud yng Ngwlad Groeg. Wnaethant Dr Kyritisi a Dr Georgiafentis yn ymweld â golygfeydd lleol gydag aelod o’r Lab, cyn ymuno â ni am swper yn Dylan’s Porthaethwy.
Mae aelodau’r Labordy Dwyieithrwydd Plant yn edrych ymlaen at eu hymweld ag Athen yn yr hydref i barhau â’r cydweithio drwy roi sgyrsiau yn y gynhadledd ‘Language Disorders in Greek 9’!Â