ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Large lake within mountains

Rhagweld y bydd hinsawdd gynhesach a gwlypach yn dod ag effaith gymdeithasol ac ecolegol i Lwyfandir Tibet

Bydd cynnydd mewn glawiad a dŵr tawdd rhewlif yn gwrthdroi’r duedd grebachu yn ddramatig ac yn ehangu llynnoedd sydd tirgaeëdig ar Lwyfandir Tibet 50%

Ìý

Mae newid yn yr hinsawdd yn gwneud Llwyfandir Tibet yn wyrddach ac yn fwy addas i fyw yno, gan ddenu mwy o bobl i uchderau uwch oherwydd mynediad gwell at ddŵr. Fodd bynnag, mae cynnydd mewn lefelau llynnoedd angen cynllunio a pholisïau brys i liniaru effeithiau ar ecoleg a phoblogaeth y rhanbarth.

Ìý

Dr Iestyn Woolway,  Cymrawd Annibynnol NERC, Ysgol Gwyddorau Eigion

Colli tir

Gallai'r tir a gollir o ganlyniad i hynny hefyd arwain at newid yn y dirwedd, wrth i lynnoedd uno a chwrs yr afonydd sy'n bwydo a rhyng-gysylltu'r llynnoedd gael ei newid.

Gallai hyn arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr a dolen adborth gadarnhaol, gan fwyhau’r newid yn yr hinsawdd. Gallai cynnydd mewn dŵr croyw, ac mewn llif rhwng llynnoedd hefyd achosi newid mewn ecoleg ac effeithio ar fywyd gwyllt. Er enghraifft, pan orlifodd Llyn Zonang yng Ngwarchodfa Natur Hoh Xil yn 2011, canfu Antelopiaid Tibet bod eu llwybr mudo wedi'i rwystro.

 pedwar antelop o flaen llyn efo creigiau yn y cefndir
Chiru neu antelop Tibetaidd (Pantholops hodgsonii)
Credit:image by yiqianwu via i naturalist cc by nc