Gwersyllfa o flaen Pontio
Mae gan y Brifysgol Bolisi Buddsoddi moesegol a chynaliadwy. Nid yw'r Brifysgol yn mynd ati ei hun i ddewis buddsoddiadau unigol, ond yn hytrach mae'n gosod fframwaith y mae ein rheolwyr buddsoddi yn ei ddefnyddio i greu portffolio ar ein cyfer.Â
Mae’r polisi’n nodi bod rhaid i unrhyw fuddsoddiadau posibl fod â lefel uchel o fesurau amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu. Rydym hefyd yn diystyru buddsoddiadau posibl mewn arfau, alcohol, gamblo, tybaco, adloniant oedolion a chwmnïau tanwydd ffosil.
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn adolygu’r Polisi Buddsoddi hwn ar hyn o bryd, gyda thrafodaethau cychwynnol eisoes wedi eu cynnal yn y Pwyllgor Buddsoddi y mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn aelod ohono. Mae’r Brifysgol yn disgwyl i’r adolygiad polisi gael ei gwblhau dros yr haf, ac y bydd y Polisi Buddsoddi diwygiedig yn cael ei ddefnyddio fel fframwaith i lywio penderfyniadau ein rheolwyr buddsoddi yn y dyfodol.
Gwersyllfa
Dydd Mercher, yr 8fed o Fai, codwyd gwersyll ar y lawnt o flaen Pontio gan grŵp o bobl sydd yn protestio yn erbyn y gwrthdaro yn Israel a Gaza gan adlewyrchu protestiadau tebyg mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau o America.Â
Rhyddid i siarad a pharch ar y campwsÂ
Mae prifysgolion yn cynnig lleoliad a chyfle i gynnal trafodaeth, ac fel cymuned o fyfyrwyr a staff, rydym yn cydnabod y gall anghytundeb ddigwydd oherwydd gall unigolion edrych ar bethau o safbwynt gwahanol.Â
Mae diogelu rhyddid i fynegi barn o fewn ffiniau cyfreithiol yn hollbwysig; fodd bynnag, mae hefyd yn hanfodol bod pobl yn trin ei gilydd â pharch bob amser.Â
Sut y dylwn gyfathrebu'n barchusÂ
Rydym yn cefnogi ein myfyrwyr trwy ddarparu safle iddynt brotestio a rhannu eu barn yn heddychlon. Gwnawn hyn drwy gydweithio'n agos â'n cynrychiolwyr etholedig yn Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod gennym y mesurau cywir yn eu lle i amddiffyn ein myfyrwyr, staff, a'r gymuned ehangach tra'n gwarchod y rhyddid i fynegi barn.Â
Yn ogystal, rydym yn condemnio hiliaeth, gwrth-semitiaeth, Islamoffobia, gwahaniaethu, aflonyddu, cam-drin neu ymddygiad troseddol yn gyfan gwbl, gan nad oes gan y rhain le yn ein cymuned.Â
I'r rhai sy'n cymryd rhan neu'n ymwneud â'r brotestÂ
I’r rhai sy’n rhan o’r brotest neu am ymuno, mae’n bwysig cofio bod yn rhaid i’r Brifysgol barhau â’i gweithrediadau o ddydd i ddydd i sicrhau bod ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu parhau â’u gweithgareddau.Â
Gofynnwn hefyd i chi barhau i ystyried ein cymuned leol, gan gydnabod yr ardal fel llwybr cyhoeddus.Â
Ac i gloi, rhowch flaenoriaeth i'ch diogelwch a'ch lles; er bod ein campws yn cael ei fonitro, mae'n parhau i fod mewn man hygyrch sy'n agored i'r cyhoedd.Â
Er ein bod yn cydnabod eich hawl i brotestio, rydym yn annog defnyddio sianeli cyfreithlon i fynegi eich barn yn effeithiol.Â
Sut i godi pryderonÂ
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dod ar draws neu wedi gweld unrhyw achos o wahaniaethu neu os oes gennych unrhyw bryder diogelu, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â Thîm Cymorth a Lles Myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É neu Undeb y Myfyrwyr.ÌýÌý
-
Cysylltwch â swyddogion diogelwch y campws ar 01248 382795 neu ewch i lefel 3 yn PontioÂ
-
I roi gwybod am bryder diogelu e-bostiwch diogelu@bangor.ac.ukÌýÌý
-
I roi gwybod am unrhyw achos o wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr, cysylltwch â'r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr yn cynhwysol@bangor.ac.ukÌýÌý
Os yw staff yn profi unrhyw fath o drais, aflonyddu neu drosedd casineb, gan gynnwys rhywiol a hiliol, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni (manylion isod).Â
ÌýÌý
I gloiÂ
Er ein bod yn cydnabod yr hawl i fyfyrwyr brotestio'n gyfreithlon, mae sefydlu gwersyll fodd bynnag, yn codi materion iechyd a diogelwch. Gall gweithredoedd o'r fath hefyd achosi risg o darfu ar staff, myfyrwyr, a'r gymuned ehangach ac mae angen i unrhyw gamau gweithredu ar dir y Brifysgol aros o fewn defnydd awdurdodedig a chyfreithlon.Â
Rydym yn cydnabod ei bod hi’n adeg hollbwysig o'r flwyddyn i lawer o fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag arholiadau ac asesiadau amrywiol.Â
Rydym wedi ymrwymo i gynnal gweithrediadau’r brifysgol fel arfer hyd eithaf ein gallu. Rydym yn annog protestwyr i ystyried effaith eu gweithredoedd yn unol â hynny. Sicrhau diogelwch a lles pawb ar ein campws yw ein prif flaenoriaeth.Â