Gwobr Newydd i Ddathlu Awduron Newydd 亚洲色吧
Mae gwobr newydd sy鈥檔 deyrnged i un o feirdd enwocaf Cymru wedi鈥檌 chyflwyno ym Mhrifysgol 亚洲色吧 i ddathlu llwyddiannau awduron newydd.
Cyflwynwyd Gwobr Lenyddol gyntaf R.S. Thomas 2024 i Leigh Roberts am ennill y marc uchaf yn nhraethawd ymchwil ei chwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg). Roedd y traethawd yn waith ffuglen wreiddiol sy鈥檔 archwilio etifeddiaeth gwrthddiwylliannau鈥檙 1990au ar draws gwahanol genedlaethau. Cyflwynodd noddwr y wobr, sef Ali Anwar o Sefydliad H'mm, dlws gwydr Fenisaidd iddi mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio, a bydd Leigh yn cael cyfle i gyhoeddi ei gwaith gyda Gomer.
Nododd yr Athro Tony Brown, sef cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas, pa mor ddefnyddiol yw mentrau megis Sefydliad H'mm sy鈥檔 cefnogi'r celfyddydau ar adeg heriol o ran cyllid diwylliannol. Roedd yn canmol 'safbwynt ffres a dwyster rhyfeddol' y darn ysgrifennu buddugol.
Wrth ymateb i ennill y wobr, dywedodd Leigh: "Mae鈥檙 wobr hon werth y byd i mi, ac mae cael y cyfle i gyhoeddi fy ngwaith yn gwireddu breuddwyd. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn teimlo鈥檔 gyffrous am bopeth sydd i ddod."
Roedd y noson hefyd yn cynnwys darlleniadau gan ddeg o fyfyrwyr MA Ysgrifennu Creadigol presennol a myfyrwyr sydd wedi graddio鈥檔 ddiweddar. Mae鈥檙 myfyrwyr wedi lansio casgliad o鈥檜 barddoniaeth a鈥檜 rhyddiaith eu hunain o鈥檙 enw echoECHOecho, yr oedd myfyrwyr eleni wedi'i olygu, ei ddylunio a'i gyhoeddi fel rhan o'u gradd.
"Bydd y wobr hon yn amlygu cryfder lleisiau newydd ar ein rhaglen ysgrifennu, a鈥檙 ffyrdd y mae ein myfyrwyr yn cyfrannu at ddiwylliant llenyddol egn茂ol. Rwy鈥檔 arbennig o falch bod y wobr gyntaf wedi鈥檌 dyfarnu am waith mor eithriadol ac anarferol," meddai鈥檙 Athro Zo毛 Skoulding, Cyfarwyddwr yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg). 听
听
听