Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau cenedlaethol, sy'n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir yng Nghymru a thramor, mae dau enwebiad i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac un ar gyfer cyn-fyfyriwr o fri.ÌýÌý
Mae tîm sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cychwynnol Gogledd Cymru'r Brifysgol, yn yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, ar y rhestr fer am y Wobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Arweiniodd y tîm ymchwil drwy’r Deyrnas Unedig a pholisi Cymru Gyfan i alluogi ffrindiau a theulu i gefnogi pobl ar ddiwedd eu hoes, sydd am dreulio dyddiau olaf eu bywyd gartref. Rhoddwyd y pecyn CARiAD (CARer ADministration) ar waith mewn lleoliadau clinigol yng Ngogledd Cymru yn 2020. Mae gwaith y tîm yn helpu i ledaenu'r ymarfer hwn ledled y Deyrnas Unedig.ÌýÌý
Ìý
Hefyd ar y rhestr fer am wobr Diwylliant y mae Mared Huws, Cydlynydd Datblygu'r Celfyddydau yn Pontio. Mae'n gweithio ar draws pob grŵp oedran, gan gefnogi iechyd a lles, a chyda chymunedau amrywiol fel grwpiau anabl a grwpiau LHDTC+. Mae cannoedd o bobl Ifanc wedi elwa o brojectau celfyddydol dan faner BLAS yn Pontio. Dechreuodd Caffi Babis, project i rieni a babanod brofi'r celfyddydau a datblygu eu sgiliau Cymraeg drwy fanteisio ar y berthynas arbennig rhwng rhiant a baban i annog datblygiad emosiynol a gwybyddol.Ìý
Mae'r gyn-fyfyrwraig, Frankie Hobro, ar restr fer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd. Mae hi'n gadwraethwr ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Cadwraeth Forol .ÌýÌý
Cewch fwy o fanylion am y rhai sydd wedi cyrraedd .Ìý
Anogir cydweithwyr i gyflwyno enwebiadau am wobrau 2025 sydd bellach ar agor. I enwebu rhywun, ewch i wefan .Ìý