O Hanfodion Cwantwm i Heriau Codio: Llwyddiannau Canolfan Hyfforddiant AIMAC ym Mryste
Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr PhD o Fangor, dan nawdd Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC, am wythnos o hyfforddiant ym Mryste.听
Cynhaliodd Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC wythnos werth chweil o hyfforddiant rhwng 23 a 25 Ionawr ym Mryste. Daeth myfyrwyr doethurol o Fangor, Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe a Bryste ynghyd a phawb yn awyddus i ymdrybaeddu 芒 byd cyfrifiadura cwantwm a gwella eu sgiliau technegol. Cyllidir AIMLAC gan UK Research and Innovation (UKRI).
Dechreuodd yr wythnos hyfforddi gyda sylw trwyadl i hanfodion cyfrifiadura cwantwm, er mwyn i鈥檙 myfyrwyr gael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r maes arloesol hwn. Bu'r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn her codio, a rhoddodd y digwyddiad ym Mryste gyfle iddynt ymgyfarwyddo 芒鈥檙 datrysiadau codio diweddaraf. Roedd yr her hon nid yn unig yn profi eu sgiliau ond hefyd yn caniat谩u iddynt gymhwyso cysyniadau damcaniaethol y buont yn eu dysgu yn ystod yr hyfforddiant. Yn ogystal 芒 chyfrifiadura cwantwm, roedd wythnos hyfforddi AIMAC yn cynnwys hyfforddiant Docker ac SQL, gan eu harfogi 芒 sgiliau ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer ymchwil a datblygu modern.听
Cafodd y cyfranogwyr y fraint o gael sesiwn gan yr Athro Jonathan Roberts ar Ddelweddu Gwybodaeth lle buont yn ymchwilio i鈥檙 gelfyddyd a gwyddor cynrychioli data cymhleth mewn ffyrdd sy鈥檔 weledol ddealladwy. A sesiwn arall gan Annabel Jenkins ac iddi鈥檙 teitl 鈥渃onnecting with the audience and getting your message across live or online鈥. Cawsant arweiniad ar gysylltu 芒'u cynulleidfa a chyfleu eu negeseuon yn effeithiol mewn sefyllfaoedd byw ac ar-lein. Mae'r set sgiliau hon yn arbennig o hanfodol yn nhirwedd cyflwyniadau academaidd a phroffesiynol sy'n esblygu鈥檔 barhaus.
Dywedodd Mr Glory Ogbonda, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧 sy鈥檔 cael ei gyllido gan AIMLAC: 鈥淎r y cyfan, roedd Wythnos Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMAC ym Mryste yn brofiad gwych. Roedd yn cyfuno mewnwelediadau am gyfrifiadura cwantwm, heriau codio, a datblygu sgiliau technegol. Yn ogystal, fe wnes i wir fwynhau cyfarfod 芒 myfyrwyr sy鈥檔 astudio gwahanol bynciau PhD a dysgu am eu profiadau.鈥
听