Cyhoeddwyd PhD Ray Robles ychydig cyn y Nadolig gan T&T Clark / Bloomsbury ac mae ar gael:ÌýTheological Metaphysics: A Pentecostal Theology of Being: T&T Clark Systematic Pentecostal and Charismatic Theology Ray C. Robles T&T Clark (bloomsbury.com)
Yng ngeiriau Dr Simo Frestadius:
Ìý
‘Mae Ray C. Robles wedi ysgrifennu gwaith arwyddocaol ar fetaffiseg ddiwinyddol o safbwynt pentecostaidd. Mae'n cyflwyno metaffiseg greadigol drindodaidd, eschatolegol, radicalaidd agored ac wedi'i hail-gyfareddu. Mae Robles yn gwneud hynny trwy ryngweithio â diwinyddiaeth bentecostaidd, y Tadau Eglwysig, Aquinas, a rhai diwinyddion athronyddol modern. Mae hefyd yn cyflwyno litwrgi bentecostaidd darluniadol sy'n llifo o'i weledigaeth fetaffisegol ac felly'n sail i'r drafodaeth fwy haniaethol yn y gymuned addoli. Mae'r llyfr hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i fetaffiseg Gristnogol a diwinyddiaeth athronyddol bentecostaidd.’
Ìý
Yn ogystal, cyhoeddwyd PhD Edwin Rodriguez-Gungor yn gynharach ym mis Ionawr eleni, hefyd gan T&T Clark / Bloomsbury ac mae ar gael yma:ÌýSpirit and Method: Pentecostal Theology and the Pneumatological Imagination: T&T Clark Systematic Pentecostal and Charismatic Theology Edwin Rodriguez-Gungor T&T Clark (bloomsbury.com)
Wrth sôn am Spirit and Method, dywedodd Dr Simo Frestadius:
Ìý
‘Gyda chreadigrwydd ac egni mae Edwin RodrÃguez-Gungor yn gwneud cyfraniad sylweddol i fethodoleg ddiwinyddol bentecostaidd. Fodd bynnag, mae'r llyfr hwn yn fwy na dim ond gwaith damcaniaethol ar ddull, mae hefyd yn cynnig mewnwelediad ffres i natur y mudiad pentecostaidd byd-eang, yn ogystal â gwreiddiau crefyddol a deallusol Pentecostiaeth America. At hynny, datblygir y "fethodoleg ddiwinyddol niwmatolegol" arfaethedig gyda goblygiadau ymarferol mewn golwg. Mae hyn yn golygu y dylai’r gwaith nid yn unig gael ei ddarllen gan ysgolheigion, ond unrhyw un sydd â diddordeb mewn myfyrio ar sut olwg ddylai fod yn ymgorffori diwinyddiaeth Bentecostaidd a charismatig.’
Ìý
Yn wir, mae CAPC ÑÇÖÞÉ«°É yn cael effaith ar ddisgyblaeth ehangach diwinyddiaeth ac mae ganddi nifer o brosiectau a chyhoeddiadau cyffrous eraill ar y gweill!