Myfyrwyr Troseddeg a Phlismona yn ymweld â Heddlu Manceinion
Cafodd myfyrwyr Plismona a Chyfiawnder Troseddol gyfle gwych i ymweld â phrif swyddfeydd Heddlu Manceinion gyda’n darlithoedd, Lisa Sparkes a Dewi Roberts. Roedd hi'n brofiad unigryw i'r myfyrwyr cwrdd ag aelodau staff yn yr heddlu. Clywodd y myfyrwyr gan aelodau o'r heddlu roedd yn gweithio gydag arfau a cwn, cwnstabliaid yn ogystal â staff o'r Adran Ymchwiliadau Troseddol, yr uned Terfysgaeth a'r Uned Troseddau Cyfundrefnol.
Roedd hi'n wych cynnig cyfleoedd o’r fath i’n myfyrwyr tra astudio Troseddeg a Phlismona yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae profiadau o’r fath yn rhoi’r cyfleoedd i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gweithio yn y sector ac i glywed am eu profiadau uniongyrchol. Mae teithiau fel hyn yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr ddechrau meddwl am eu gyrfa yn y dyfodol a pha opsiynau all fod ar gael iddynt ar ôl iddynt raddio.