Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mangor yn dathlu Lles
Ar draws Prifysgolion y DU, cynhaliwyd Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd, ac ymunodd Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddor Gymdeithas eto eleni â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i gyflwyno tri digwyddiad cyhoeddus a oedd yn arddangos yr ystod gwaith a oedd yn digwydd ar y thema ‘Dewch i Archwilio Lles’.
Digwyddodd y sesiynau’n gyntaf yng Nghaerdydd ac Abertawe ddiwedd mis Hydref ac yna yn Pontio, ÑÇÖÞÉ«°É fis diwethaf. Cynhaliwyd digwyddiad bywiog a chyfeillgar i deuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd, cydweithwyr, myfyrwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol i ddysgu am y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud. Roedd ffocws arbennig ar arddangos pwysigrwydd gweithio rhyngddisgyblaethol, gan ddangos pa mor annatod yw'r gwyddorau cymdeithasol i'r rhan fwyaf o ddisgyblaethau a rhoddodd gyfle rhwydweithio gwych i academyddion a sefydliadau i gydweithio ar brosiectau yn y dyfodol.
Eglurodd arweinydd Gŵyl ÑÇÖÞÉ«°É, Dr Corinna Patterson, ‘Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ffordd wych o ddathlu ac arddangos pwysigrwydd disgyblaethau’r Gwyddorau Cymdeithasol a sut maent yn rhan annatod o ddeall a dod o hyd i atebion i faterion cymdeithasol, yn lleol ac yn fyd-eang.’
Gyda 17 o stondinau yn edrych ar amrywiaeth o faterion, o gaethwasiaeth fodern, gofalwyr ifanc, deallusrwydd artiffisial, newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd ac iechyd, i addysg ac anghydraddoldebau cymdeithasol, i enwi dim ond rhai, roedd y mynychwyr yn gallu archwilio'r stondinau rhyngweithiol amrywiol i ddysgu am y pynciau a'r ymchwil. Roedd gan y digwyddiad hefyd osodiadau celf gan Sarah Holyfield ar themâu meddygaeth a chymdeithas ac anghydraddoldebau cymdeithasol, gan helpu i ysgogi meddwl a sgwrs bellach. Daeth y digwyddiad bywiog i ben gyda thrafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Andy Mcstay, Athro mewn Technoleg a Chymdeithas, a roddodd y cyfle i bobl glywed yn fanylach enghreifftiau o ymchwil ryngddisgyblaethol ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy'n digwydd ar hyn o bryd ar thema lles a chymdeithas.
Aelodau’r panel oedd:
- Dr Hefin Gwilym - Incwm a Lles sylfaenol Cyffredinol (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É).
- Dr Myfanwy Davies - Hunaniaeth ac Anghenion Gofalwyr, Trafodaethau ynghylch Budd-daliadau (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É).
- Dr Patricia Masterson Algar - Gofalwyr ifanc dementia (yn cynnwys pobl ifanc â'r profiad byw mewn ymchwil ac yn y dylunio a'r offer cymorth) (Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É).
- Dr Nathan Bray - Trafod Iechyd a Lles a Gwaith yr Academi (Academi dros Iechyd, Tegwch, Atal a Lles, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É).
- Mr Simon Johns - Lles Plant a Chydweithio (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd).
Gan adlewyrchu ar lwyddiant y diwrnod, ychwanegodd Corinna, ‘Nid oeddem erioed wedi cynnal digwyddiad fel hwn o’r blaen, roedd yn gyd-ddigwyddiad yn debyg o ran fformat i Ddiwrnod Cymunedol y Brifysgol, ac fel hynny, roedd yn ddiwrnod hynod fywiog. Rydym wedi cael adborth anhygoel gan fynychwyr ac academyddion. Roedd yn ddigwyddiad enfawr i’w drefnu, yn enwedig rhwng tair Prifysgol, felly roedd yn wych ei weld yn rhagori ar ein disgwyliadau ac yn arddangos pwysigrwydd ymchwil gwyddorau cymdeithasol.’
Mae’r Ŵyl Gwyddor Gymdeithasol yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol a chymdeithas ac roedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2022. Mae’n gyfle i unrhyw un archwilio pynciau sy’n ymwneud â gwyddor gymdeithasol – o iechyd a lles i droseddu, cydraddoldeb, addysg a hunaniaeth. – drwy ddigwyddiadau a gynhelir gan ymchwilwyr o brifysgolion y DU.
Ìý