Myfyrwyr Lefel A yn cael cipolwg uniongyrchol ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Dr Harri Pritchard, Dr Esyllt Llwyd a Myfyriwr Meddygol Blwyddyn 5, Ffraid Gwenllian yn rhannu cipolwg ar ddatblygiad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol 亚洲色吧 gyda dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.
Cafodd myfyrwyr Safon Uwch gipolwg ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn ddiweddar pan ymwelodd cynrychiolwyr 芒 champws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.
Gwnaeth Dr Harri Pritchard, Dr Esyllt Llwyd a Myfyriwr Meddygaeth Blwyddyn 5, Ffraid Gwenllian ymweld 芒 champws y coleg ym Mhwllheli, gyda dysgwyr o gampws y coleg yn Nolgellau a Choleg Menai yn Llangefni hefyd yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn lansio ei rhaglen meddygaeth gyntaf ym mis Medi 2024 a fydd yn galluogi myfyrwyr i gwblhau eu hastudiaethau yn gyfan gwbl yng Ngogledd Cymru.
Mae sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol 亚洲色吧 i wasanaethu ei chymunedau lleol a'i strategaeth i gefnogi iechyd a lles.
Mae鈥檙 Ysgol Feddygol newydd yn dod ag arbenigwyr addysgol a meddygol o bob cwr o Ogledd Cymru ynghyd, ac mae鈥檔 gydweithrediad rhwng y Brifysgol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Meddygon Teulu.
Dr Harri Pritchard, Dr Esyllt Llwyd a Ffraid Gwenllian O Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn ymweld 芒 champws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.
Mwynhaodd Dr Pritchard, sy鈥檔 wreiddiol o Dudweiliog, ger Pwllheli, siarad 芒 darpar ymgeiswyr o鈥檌 ardal enedigol, gan rannu ei fewnwelediad i yrfa feddygol yng Ngogledd Cymru.
鈥淥 fis Medi 2024 bydd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn darparu rhaglenni Meddygaeth ar gyfer israddedigion ac ar gyfer graddedigion newydd,鈥 meddai Dr Pritchard, Uwch Ddarlithydd Clinigol yn yr Ysgol Feddygol sydd hefyd yn Feddyg Teulu yn Amlwch.
鈥淓r bod myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio ym Mangor ers 2018, roedd rhaid i ymgeiswyr a oedd wedi astudio Lefel A gwblhau'r flwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd neu gwblhau 'gradd bwydo' cyn ymuno 芒 ni ym Mangor.
鈥淥 fis Medi鈥檙 flwyddyn nesaf, bydd modd astudio鈥檙 rhaglen Feddygaeth gyfan yng Ngogledd Cymru, ac mae angen i ni gyfleu鈥檙 neges bwysig honno ac annog ymgeiswyr lleol i ymgeisio.鈥
Ychwanegodd Dr Pritchard: 鈥淢ae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbennig o awyddus i ddenu myfyrwyr dwyieithog, a bydd cynnig cyd-destunol yn cael ei roi i ddenu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.鈥
Mae'r gofynion mynediad ar gyfer mynediad israddedig i'w gweld yma, ac ar gyfer mynediad i raddedigion yma.
Roedd Penny MacCall, sy'n astudio Lefel A Bioleg, Ffiseg a Chemeg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, yn un o'r llu o fyfyrwyr a gafodd fudd mawr o'r drafodaeth wrth iddi ystyried astudio meddygaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Dywedodd Penny: 鈥淓sboniodd y t卯m strwythur y cwrs flwyddyn ar 么l blwyddyn, a rhoi syniadau i ni ar y ffordd orau i baratoi drwy ymgymryd 芒 gweithgareddau gwirfoddol a phrofiad gwaith.鈥