Y Brifysgol yn Croesawu fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru
Cynhaliwyd trydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru yn y brifysgol ar y 19eg a’r 20fed o Hydref. Roedd y fforwm, sy'n rhan o Raglen Iwerddon-Cymru, yn dathlu'r cydweithio hirsefydlog rhwng Iwerddon a Chymru mewn gwahanol feysydd gan feithrin cyfeillgarwch ac arloesedd. Â
Dechreuodd y digwyddiad nodedig hwn gyda chyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru a Tánaiste Iwerddon, a buont yn trafod materion sydd o ddiddordeb i’r ddwy wlad.  Â
Yn dilyn hynny cafwyd derbyniad ar y cyd yn Neuadd Powis lle croesawyd ynghyd arweinwyr project, rhanddeiliaid a Gwyddelod ar wasgar, gan ailddatgan yr ymrwymiad i gynnal perthynas gref. Fe wnaeth Iain Quick, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Iwerddon, groesawu'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Tánaiste Micheál Martin. Â
Yn ystod yr ymweliad deuddydd, mynegodd y Tánaiste Micheál Martin ei ymroddiad i'r berthynas "unigryw" sy'n rhwymo Iwerddon a Chymru â’i gilydd. Cydymaith Mr Martin, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Gweinidog Materion Tramor a Gweinidog Amddiffyn Iwerddon, yn yr ymweliad â ÑÇÖÞÉ«°É oedd Simon Harris, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth Iwerddon. Â
Yn ystod yr ymweliad bu’r Tánaiste a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn edrych ar wahanol safleoedd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Porthladd Caergybi, Hyb Hydrogen Morlais, ac ysgol cyfrwng Cymraeg a chanddi gysylltiadau hanesyddol ag Iwerddon.  Tra aeth Simon Harries, y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth (Iwerddon) a Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn y Senedd i DÅ· Gwyrddfai, yr hyb datgarboneiddio dan arweiniad Adra gyda mewnbwn Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ogystal ag M-Sparc, sef parc gwyddoniaeth y brifysgol.  Â
Ar ben hynny, cyflwynwyd y gweinidogion i brojectau a ariannir gan Cymru Ystwyth, gan ganolbwyntio ar bedair thema ganolog. Yn benodol, rhoddodd Shelagh Malham, sy’n Athro mewn Bioleg Môr gyflwyniad ar fentrau Glas Cynaliadwy, tra bod Enlli Thomas, sy’n Ddirprwy Is-ganghellor Dros Dro a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau, a Gwyddorau Cymdeithas anerchiad hynod werthfawr am ddiogelu ieithoedd.  Rhoddodd John Parkinson, sy’n Athro yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon gyflwyniad ar Arloesi a chan yr Athro Einir Young, sy’n Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, a Gwenan Griffith, sy’n Swyddog Cynaliadwyedd, cafwyd cyflwyniad ar y thema Cymunedau a Diwylliant. Â
Yn nhrydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru tynnwyd sylw unwaith eto at y cysylltiad parhaus rhwng y ddwy genedl a'u hymrwymiad i hyrwyddo cydweithio ar gyfer dyfodol disglair. Trwy’r bartneriaeth hon mae rhagolygon cyffrous yn yr arfaeth i'r ddwy wlad mewn sawl gwahanol faes.Â