Project 'Trafod Testun' wedi鈥檌 noddi gan Gronfa 亚洲色吧
Dros y misoedd diwethaf, mae cyfres o baneli trafod wedi eu cynnal yn Pontio gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol 亚洲色吧. Derbyniodd y project 'Trafod Testun' 拢2,300 o Gronfa 亚洲色吧 a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Roedd y trafodaethau, a oedd yn cynnwys trawstoriad o arbenigwyr, ysgolheigion ac ymarferwyr proffesiynol, yn canolbwyntio鈥檔 benodol ar wahanol agweddau o鈥檙 maes llafur Safon Uwch/Uwch Gyfrannol, gan gynnwys y ddrama lwyfan Siwan gan Saunders Lewis, y ffilm arobryn Hedd Wyn, chwedl Branwen o ail gainc y Mabinogi, yr hengerdd, a chywyddau Dafydd ap Gwilym.
Roedd y digwyddiadau yn agored i fyfyrwyr, disgyblion ysgol a'r cyhoedd. Cawsant eu hyrwyddo ar wefan Pontio a'u hysbysebu'n eang. Archebwyd tua 50 o docynnau ar gyfer pob panel gyda chyfanswm o 8 ysgol leol yn mynychu鈥檙 digwyddiadau yn ogystal 芒 myfyrwyr prifysgol ac aelodau鈥檙 cyhoedd. Oherwydd diddordeb gan sawl ysgol yn y canolbarth a鈥檙 de, cafodd y trafodaethau eu recordio a鈥檜 hanfon at athrawon ledled y wlad a鈥檜 llwytho hefyd i wefan adnoddau鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Y Porth. Mae cofnodi'r trafodaethau hefyd yn eu galluogi i fod yn adnodd addysgol y gellir ei ddefnyddio bob blwyddyn.
Dywedodd disgyblion ac athrawon eu bod yn teimlo iddynt elwa鈥檔 fawr o鈥檙 trafodaethau wrth adolygu ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch/UG. Dywedodd Llio Davies, Pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llangefni: 鈥淩oedd y paneli trafod yn ddiddorol ac yn hynod ddefnyddiol wrth ddod 芒鈥檙 testunau鈥檔 fyw i鈥檙 disgyblion. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr iddyn nhw gwrdd 芒 chyd-fyfyrwyr Cymraeg a chael blas ar yr hyn sydd gan Brifysgol 亚洲色吧 i鈥檞 gynnig.鈥
Roedd ysgolion o'r tu hwnt i ogledd Cymru yn arbennig o ddiolchgar o allu manteisio ar yr adnodd trwy'r recordiadau. Dywedodd Catrin Rowlands, Pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Llanhari: 鈥淩oedd yn wych derbyn cop茂au digidol o鈥檙 paneli trafod a gynhaliwyd ym Mangor er mwyn i ni allu rhannu鈥檙 profiad gyda鈥檙 disgyblion. Roedd yn adnodd adolygu annibynnol defnyddiol a chyfeiriodd y mwyafrif ato, gan ddyfynnu a dehongli sylwadau aelodau鈥檙 panel yn eu harholiad llafar terfynol.鈥
Dywedodd Cydlynydd y Project, Dr Manon Wyn Williams o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau: 鈥淢ae nifer o gysylltiadau gwerthfawr wedi鈥檜 creu gydag athrawon ysgolion uwchradd ledled Cymru drwy鈥檙 project 鈥楾rafod Testun鈥 a fydd yn sail gadarn i weithgareddau tebyg yn y dyfodol. Hoffai Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ddiolch i Gronfa 亚洲色吧 am y cyllid i gefnogi鈥檙 project.鈥
Dywedodd Emma Marshall, y Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr: 鈥淏u鈥檙 paneli hyn yn llwyddiant mawr wrth ymgysylltu ag ysgolion a hyrwyddo Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae Cronfa 亚洲色吧 yn falch iawn o gefnogi鈥檙 math hwn o weithgaredd sydd o fudd i nifer o grwpiau.鈥
Mae Cronfa 亚洲色吧 yn fodd i'r brifysgol ragori a rhoi elfennau 鈥測chwanegol鈥 i'r profiad a gaiff ei myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth a'r ffurflen gais cliciwch yma听neu cysylltwch a Persida Chung, Swyddog Datblygu, ar p.v.chung@bangor.ac.uk听