Canolfan DSP yn mynychu cynhadledd Connection Britain yn Llundain
Cynrychiolodd Dr Grahame Guilford, Rheolwr Ymelwa ar Dechnoleg, y Ganolfan DSP yn Connect Britain yr wythnos hon. Yn cael ei gynnal ar 20-21 Medi 2023 yn Llundain, mae Connected Britain yn ddigwyddiad mawr sy鈥檔 dod 芒 busnesau ac arweinwyr ar draws y sector digidol, yn ogystal 芒 chyrff y llywodraeth, ynghyd am ddau ddiwrnod o ddysgu a rhwydweithio.
Roedd cyflwyniadau鈥檙 diwydiant a鈥檙 llywodraeth yn ymdrin 芒 phynciau gan gynnwys gofal iechyd cysylltiedig, polisi鈥檙 llywodraeth, a鈥檙 r么l sydd gan lywodraeth a chyrff diwydiant i鈥檞 chwarae wrth fynd i鈥檙 afael 芒 gagendor digidol y DU. Uchafbwynt allweddol oedd digwyddiad panel yn canolbwyntio ar sut mae prifysgolion y DU yn creu gweledigaeth o fri rhyngwladol ar gyfer dyfodol 6G, a phlymio鈥檔 ddwfn i鈥檙 rhaglenni ymchwil sy鈥檔 digwydd heddiw ar draws diwydiant a鈥檙 byd academaidd.
Roedd yn gyfle gwerthfawr i chwilio am gyfleoedd newydd gydag ystod eang o randdeiliaid o fewn y farchnad cysylltedd, ac i ehangu ein hecosystem sydd eisoes yn ymestyn o bolisi strategol, seilwaith a rhwydweithiau, hyd at achosion defnydd defnyddwyr terfynol arloesol.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael .