Cafodd y cyfarfod groeso cynnes gan y Cymrawd er Anrhydedd a’r Athro er Anrhydedd, yr Arglwydd Dafydd Wigley, sydd hefyd Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É. Yn ogystal, cafodd y mynychwyr y fraint o glywed gan yr Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke a Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, a rannodd eu syniadaeth a'u gweledigaeth ynghylch dyfodol y sefydliad.Â
Bu’r cyn-fyfyriwr Harry Riley, sydd bellach yn gweithio i lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn sôn am ei brofiad o fod yn fyfyriwr ym Mangor ac am sut y gwnaeth y cyfleoedd amrywiol a gafodd, megis gweithio ar ymgyrch Telethon Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É ac fel Cydlynydd Campws Byw, gynnig profiadau amhrisiadwy iddo. Cafodd Harry ei ethol yn Is-lywydd Addysg Undeb y Myfyrwyr yn 2019 a’i ethol yn Llywydd yn 2020.Â